Llinellau cyffuriau wedi'u datgymalu a phlant wedi'u diogelu yn ystod wythnos o weithredu ...
Diogelwyd plant agored i niwed a datgymalwyd llinellau cyflenwi cyffuriau wrth i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) gymryd rhan mewn wythnos genedlaethol o weithredu lefel uwch i darfu ar weithgarwch Llinellau Cyffuriau.