Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Yr hyn y gallwch chi gwyno amdano |
2. Sut i gwyno am yr heddlu |
3. Beth sy'n digwydd i'ch cwyn |
4. Beth i'w wneud os ydych chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn |
I wneud cwyn am yr heddlu mae angen ichi fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad yr hoffech chi gwyno amdano eich hunan neu wedi cael eich effeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad.
Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod swyddog neu aelod o staff yr heddlu yn gwneud rhywbeth nad yw'n ymddangos yn iawn, dywedwch wrthon ni.
Gallwch wneud cwyn am un o swyddogion, aelodau staff, contractwyr neu wirfoddolwr yr heddlu os ydych chi:
Gallwch wneud cwyn am swyddog neu aelod o staff yr heddlu sydd, ar ddyletswydd neu oddi ar ddyletswydd:
Gwasanaeth Riportio Gwrth-lygredigaeth a Cham-drin yr Heddlu
Gallwch gwyno am sut mae heddlu’n cael ei redeg. Er enghraifft, gallwch gwyno am safonau plismona neu bolisi plismona.
Does dim terfyn amser ynglŷn â gwneud cwyn am yr heddlu, ond os byddwch chi'n cwyno am rywbeth a ddigwyddodd fwy na 12 mis yn ôl, byddwn yn gofyn ichi ddweud pam na wnaethoch chi gwyno'n gynt.
Chewch chi ddim gwneud cwyn am rywbeth rydych chi wedi gweld yr heddlu’n ei wneud ar y teledu neu'r cyfryngau cymdeithasol neu wedi clywed amdano gan rywun arall. Y rheswm am hyn yw eich bod chi heb weld y digwyddiad eich hun a heb gael eich effeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad. Ond rydych chi’n dal yn cael dweud wrthon ni am eich pryderon.
Nesaf: Sut i gwyno am yr heddlu