Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:18 24/01/2022
Mae menter gymunedol a sefydlwyd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymgysylltu â phobl ddigartref yn Camden wedi cael ei chydnabod gyda Gwobr Plismona Bro.
Ymgysylltu â phobl ddigartref a'u hannog i mewn i wasanaethau cymorth oedd nod Op Mammoth a sefydlwyd gan y tîm plismona bro yn Kings Cross ym mis Mehefin y llynedd.
Gan weithio drwy gydol y cyfyngiadau symud ar ôl ymgynghori â phartneriaid, sefydlodd y tîm y cynllun i ddiogelu poblogaeth y stryd yn dilyn adborth gan deithwyr a phartneriaid rheilffyrdd.
Aeth y tîm, sy'n cynnwys swyddogion, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Cwnstabliaid Gwirfoddol, ati i sicrhau bod atgyfeiriadau priodol ar waith a nodi unigolion a oedd yn wynebu risg uchel.
Roedd sicrhau £75k gan Gyngor Camden yn golygu y gallai patrolau ar y cyd â swyddogion Presenoldeb Cymunedol Camden, staff Network Rail a 'Routes off the Street' (RTS), ymgysylltu'n weithredol ag aelodau o boblogaeth y stryd, cynnal cyfrifiadau stryd a'u hannog i gymryd cymorth.
Mewn wythnos gyfartalog mae 80 awr swyddog o batrolau pwrpasol ac unigryw; 100 o ryngweithiadau â phoblogaeth y stryd; 10 atgyfeiriad am gymorth; 30 o adroddiadau cudd-wybodaeth a gyflwynir; 20 rhybudd a gyhoeddir ar gyfer ASB a phum arestiad.
Yn hytrach na bod yn ymateb sydyn i fater digartrefedd, mae'r tîm yn cyfarfod yn rheolaidd ag asiantaethau eraill gan gynnwys Yr Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl i drafod y ffordd orau o gefnogi unigolion y nodwyd eu bod yn cysgu ar y stryd ac yn cardota, yn ogystal ag edrych ar gamau gorfodi i'r rhai sy'n parhau i gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Drwy fabwysiadu dull 'Dim Goddefgarwch' i'r pum troseddwr uchaf a gorfodi'r parth yfed rheoledig ynghyd â chyhoeddi Gorchmynion Gwasgaru, defnyddir WIPS, Rhybuddion Diogelu Cymunedol a Hysbysiadau Diogelu Cymunedol i gyd fel dulliau o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi cael CBOs yn erbyn chwe throseddwr toreithiog ac mae 16 o Hysbysiadau Diogelu Cymunedol gweithredol sydd wedi'u cyhoeddi ar y cyd gan BTP/Met/Cyngor Camden.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd David Rams: "Mae gwaith yr NPT yn Kings Cross yn adlewyrchu holl ethos plismona cymunedol: datrys y materion sydd bwysicaf drwy weithio gyda'n partneriaid ar y rheilffordd ac yn y gymuned.
"Diolch i'w dull arloesol, mae'r tîm wedi gallu rhoi dulliau ar waith sy'n helpu'r rhai mwyaf agored i niwed.
"Nid yn unig y mae'r gwaith o fudd i'r rhai sy'n byw ar y stryd ond hefyd yn gwella hyder teithwyr ac yn lleihau ofn troseddu ar y rheilffordd."