Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:37 16/02/2022
Mae lluniau brawychus o bobl ifanc sydd wedi’u dal ar y cledrau wedi ysgogi’r diwydiant rheilffyrdd i annog rhieni i siarad â phlant am beryglon y rheilffordd cyn hanner tymor.
Cafodd 720 o achosion o dresmasu eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â hyn, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi derbyn sawl adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol, taflu cerrig a difrod i eiddo rheilffordd, gan gynnwys diffibrilwyr sydd newydd eu gosod.
Mae swyddogion yn parhau i batrolio'r rhwydwaith ac mae camerâu synhwyro symudiad wedi'u gosod mewn lleoliadau allweddol i fynd i'r afael â'r mater.
Esboniodd Arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Richard Powell: “Nid maes chwarae yw’r rheilffordd. Bob tro mae rhywun yn camu ar y trac, maen nhw'n rhoi eu hunain mewn perygl o gael anaf difrifol sy'n newid bywyd.
“Rydym yn dueddol o weld cynnydd mawr mewn achosion o dresmasu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â phobl ifanc yn ystod gwyliau’r ysgol. Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn gofyn i ni i gyd siarad â’n hanwyliaid i atal niwed pellach neu anaf difrifol.”
Dywedodd Emily Coughlin, Rheolwr Diogelwch Cymunedol yn Network Rail: “Mae tresmasu ar y rheilffordd yn anghyfreithlon ond, y gwir yw, mae chwarae ar y cledrau yn hynod beryglus a gallai arwain at anafiadau sy’n newid bywydau neu hyd yn oed ganlyniadau angheuol.
“Mae Network Rail a BTP yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru yn barhaus, gan addysgu plant am beryglon y rheilffordd ond mae angen cymorth gofalwyr arnom hefyd i gyfleu’r neges honno – yn enwedig yn y cyfnod cyn y gwyliau ysgol.”
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Mae’n hynod siomedig, o fewn wythnosau i’r cam cyntaf o osod diffibrilwyr achub bywyd yng ngorsafoedd trenau TrC, fod chwech wedi’u fandaleiddio a bydd angen eu trwsio nawr.
“Mae’r diffibrilwyr yn arf hanfodol ar gyfer y gymuned gyfan ac mae’r fandaliaeth hon yn peryglu bywydau pobl.
“Gall ataliad y galon ddigwydd i bobl o bob oed a gall defnyddio diffibriliwr gynyddu siawns rhywun o oroesi yn fawr. Mae’n bwysig bod y diffibrilwyr ar gael mewn lleoliadau allweddol, fel gorsafoedd rheilffordd, ac mewn cyflwr gweithio da.
“Gofynnwn i unrhyw un sy’n gweld diffibriliwr yn cael ei ddifrodi i ffonio Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar unwaith.”
Negeseuon pwysig i rieni a gofalwyr eu rhannu gyda phlant:
Mae BTP a Network Rail yn cynnal ymgyrch ddiogelwch drawiadol – You Vs Train, sy’n amlygu canlyniadau dinistriol tresmasu ar y rheilffordd. Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar y rheilffyrdd ar gael yn www.youvstrain.co.uk