Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:09 28/01/2022
Mae teulu Warren Graham, 17, a fu farw ar y rheilffordd yn Nwyrain Swydd Ayr heddiw yn rhoi teyrnged iddo ac yn gofyn i bobl barchu eu preifatrwydd.
Cafodd swyddogion eu galw i'r llinell yng Nghilmarnock am 12.58pm ar ddydd Mawrth 25 Ionawr yn dilyn adroddiadau o anafusion ger y cledrau.
Fe wnaeth parafeddygon fynychu hefyd, ond yn anffodus datganwyd bod Warren wedi marw yn y lleoliad. Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd teulu Warren: "Mae ein bywydau wedi newid am byth ond byddwn bob amser yn coleddu'r atgofion sydd gennym o'n bachgen arbennig.
"Diolch i bawb sydd wedi talu teyrnged i Warren. Mae hyn wedi rhoi cysur i ni o wybod sut fachgen poblogaidd, hoffus ydoedd.
"Parchwch ein preifatrwydd ar yr adeg drist hon i'n helpu i ddod i delerau â'n colled."