Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r holl ddeunydd ar y wefan hon yn destun hawlfraint. Oni nodir yn benodol fod deunydd ar gael i’w ddefnyddio’n gyffredinol yna ni ddylai gael ei gopïo na'i ailddefnyddio heb ganiatâd pendant Heddlu Trafnidiaeth Prydain neu ddeiliaid hawlfraint eraill lle rydyn ni wedi defnyddio deunydd o dan drwydded.
Yr unig eithriadau yw'r rhai a ganiateir o dan y gyfraith hawlfraint, lle gall deunydd gael ei ddefnyddio heb ganiatâd na thaliad at y canlynol:
Caniateir hyn ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid rhoi cyfeiriad priodol at ffynhonnell y deunydd.
Mae logo Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi'i gofrestru yn y Swyddfa Batentau fel nod masnach.
Er ein bod yn ceisio sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, mae’n cael ei darparu ar sail 'fel y mae', heb warantau o unrhyw fath, ac ni roddir gwarant, pendant nac ymhlyg, o ran cywirdeb na chyflawnder.
Nid yw Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad. Ni fydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn atebol am unrhyw hawliadau gan drydydd partïon na cholledion o unrhyw natur gan gynnwys, ymysg pethau eraill, colli elw, iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnydd trydydd parti ar y wefan hon neu o’i anallu i’w defnyddio.
Nid yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol na chyngor proffesiynol arall.
Does dim angen ichi ofyn am ganiatâd i gysylltu ag unrhyw dudalennau ar y wefan hon. Rhaid ichi beidio ag agor ein tudalennau o fewn set fframiau nac unrhyw strwythur arall a allai roi’r argraff bod cynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn rhan o wefan arall.
Nid yw Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cynnwys ar unrhyw wefan y ceir dolen hyperdestun iddi o'r wefan hon. Darperir y dolenni 'fel y maent' heb warant, pendant nac ymhlyg, o ran yr wybodaeth a ddarperir ynddynt.