Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:34 24/01/2022
Mae tîm plismona bro wedi cael eu cydnabod gyda gwobr i'r llu yn dilyn eu llwyddiant wrth ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd y tîm, sy'n cynnwys swyddogion a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, yn wynebu'r broblem o fwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus yng ngorsaf Hengoed.
Dros y misoedd diwethaf roedd yr orsaf wedi gweld cynnydd mewn troseddau fel llosgi bwriadol, rhwystro ac ymosodiadau ar staff.
Fe wnaethon nhw ymateb drwy sefydlu dull amlasiantaethol o nodi troseddwyr a mwy o batrolau amlygrwydd uchel.
Cafodd hysbysiadau gwasgaru adran 35 eu gweithredu a'u gorfodi ac anfonwyd llythyrau at rieni.
Cynhaliodd y tîm ymweliadau cartref hefyd i siarad â rhieni wyneb yn wyneb a chyflenwyd ymweliadau ysgol, gan weithio gyda phartneriaid i sefydlu hyfforddiant a chwnsela i atal aildroseddu.
O fewn mis yn unig, aeth galwadau i wasanaethu ar Reilffordd Cwm Rhymni i lawr o 114 i 53 a gwnaed nifer o arestiadau. Mae'r gwaith yn parhau i weld llwyddiant.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Dave Rams: "Mae gwaith NPT Caerdydd yn nodi sut mae plismona bro yn gweithio ar ei orau – drwy ddeall y gymuned y mae'n ei gwasanaethu a thrwy weithio gyda phartneriaid i nodi rhesymau y tu ôl i ymddygiad sy'n ein galluogi i fynd i'r afael â'r broblem orau.
"Mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn ac mae ffocws parhaus y tîm yn golygu bod y rheilffordd, yn enwedig yn Hengoed, yn lle mwy diogel i deithwyr a staff y rheilffyrdd."