Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:26 25/01/2022
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn chwilio am bobl 13-17 oed i ymuno â’i Grŵp Cynghori Annibynnol yng Nghymru, De-orllewin Lloegr, Canolbarth Lloegr a’r Pennines.
Mae BTP yn plismona rheilffyrdd Prydain, gan ddarparu gwasanaeth i weithredwyr rheilffyrdd, eu staff a theithwyr ledled y wlad.
Mae'r heddlu wedi sefydlu Grwpiau Cynghori Annibynnol mewn gwahanol ranbarthau i helpu i ymgysylltu â chymunedau, datblygu cynlluniau ac adolygu eu gweithgarwch a'u gweithrediadau. Mae'r grŵp a'i aelodau yn gwbl annibynnol ar yr heddlu.
Mae’r grŵp yn helpu i sicrhau bod arddull plismona’r heddlu yn adlewyrchu anghenion y gymuned gyfan drwy:
Dywedodd Arolygydd BTP Richard Powell: “Rydym eisiau clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc am sut mae'r hyn rydym yn ei wneud yn effeithio arnyn nhw.
“Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir, sydd â diddordeb mewn plismona a’i effaith ar yr ardal leol, i’n helpu i wella ein gwasanaeth.”
Mae'r grŵp yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae'n cynnwys gwirfoddolwyr annibynnol, o ystod eang o gefndiroedd, cymunedau a grwpiau amrywiaeth. Nid yw aelodau'r panel yn cael eu talu i gyflawni'r rôl ond yn cael eu had-dalu am gostau cysylltiedig megis teithio.
I gymryd rhan gyda Grŵp Cynghori Annibynnol BTP, cysylltwch â [email protected]