Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
Dim ond nifer fach o achosion sy'n mynd i'r llys, ond fel dioddefwr neu dyst i drosedd os gofynnir ichi roi tystiolaeth yn y llys, mae’n rhaid ichi fynd.
Dim ond os yw'r diffynnydd (y person sydd wedi’i gyhuddo o'r drosedd) yn gwneud y canlynol y bydd rhaid ichi fynd i'r llys:
Rhagor o wybodaeth am sut mae’r llys yn gweithio.
Os gofynnir ichi roi tystiolaeth yn y llys, gallwn sicrhau eich bod yn cael help a chefnogaeth.
Byddwn yn eich cyflwyno i aelod o'r Uned Gofal Tystion os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.
Y person hwn fydd eich cyswllt yn ystod y treial. Fe fyddan nhw:
Gallan nhw drefnu ymweliad â’r llys cyn y treial er mwyn ichi weld sut mae’r llys yn edrych. Byddan nhw hefyd yn esbonio ble y gallai pobl allweddol eistedd a beth sy'n digwydd ar ddiwrnod y treial.
Ar y diwrnod, efallai y byddwch yn gallu cyrraedd drwy fynedfa wahanol i'r diffynnydd ac aros mewn man ar wahân.
Os ydych chi’n teimlo’n agored i niwed neu’n ofni’r troseddwr, neu os yw plentyn neu berson ifanc yn rhoi tystiolaeth, efallai y bydd y llys yn gallu darparu ‘mesurau arbennig’. Mae’r rhain yn bethau fel:
I gael rhagor o wybodaeth am fesurau arbennig, siaradwch â’ch swyddog cymorth i ddioddefwyr a thystion. Neu ewch i ardan mesurau arbenning Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG).
I'r rhai sy'n mynd i’r llys yn yr Alban, mae’r gwasanaethau uchod yn cael eu darparu gan Swyddfa'r Goron a Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth yr Alban or the Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch mynd i'r llys, rhaid ichi ddweud wrth y sawl a ofynnodd ichi fynd cyn gynted â phosibl. Fe allan nhw helpu i esbonio pethau ichi ac edrych ar ba gymorth y gallwch ei gael.
Os nad ewch chi i'r llys, efallai y cewch chi 'wŷs tyst' gan y llys. Mae gwŷs tyst yn dweud bod rhaid ichi fynd i'r llys.
Os byddwch yn dal i fethu mynd i'r llys heb reswm da, fe allech fod 'yn dirmygu’r llys' ac efallai y cewch eich arestio.
Os ydych chi’n teimlo na allwch chi fynychu’r llys oherwydd salwch, rhaid i chi gael nodyn gan eich meddyg yn egluro pam nad ydych chi’n iach i fynychu’r llys. Rhaid anfon copi o’r llythyr hwn at eich swyddog cymorth i ddioddefwyr a thystion cyn gynted â phosibl. Ni fydd nodyn ‘anffit i weithio’ yn ddigonol.
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith i chi yn ôl y gyfraith i roi tystiolaeth, ond nid oes rhaid iddynt eich talu. Fodd bynnag, gallwch hawlio treuliau am golli enillion. Gallwch wneud hyn pan fyddwch chi’n mynd i’r llys fel:
Does dim rhaid i'ch cyflogwr eich talu am eich amser i ffwrdd o'r gwaith.
Gallwch hawlio treuliau gan y GEG am deithio, prydau bwyd, diodydd, colli enillion a gofal plant.
I gael gwybod mwy am dreuliau a sut i’w hawlio, ewch i wefan Gov.uk website.
Os na fydd tywysydd y llys yn rhoi ffurflen dreuliau i chi, gofynnwch i'r llys neu'r cyfreithiwr amddiffyn a allwch chi hawlio treuliau am eich amser yn y llys ai peidio.
Pan nad oes angen eitem mwyach fel tystiolaeth neu fel rhan o'r ymchwiliad, mae gennych chi hawl i'w chael yn ôl cyn gynted ag nad oes ei hangen mwyach.
I gael rhagor o wybodaeth am fynd i'r llys fel dioddefwr neu dyst, ewch i wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron neu Gwasanaeth Tystion.