Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llundain yw un o ddinasoedd mwyaf cyffrous – a mwyaf diogel – yn y byd ac rydym eisiau eich helpu i ddiogelu eich hun a’ch eiddo yn ystod eich arhosiad. Felly darllenwch ein cyngor a mwynhewch eich arhosiad gan deimlo eich bod wedi paratoi’n well.
Dewiswch eich gwesty’n ofalus. Ewch am un sydd ag adolygiadau da a nodweddion diogelwch.
Ymgyfarwyddwch gyda lleoliad diffoddwyr tân, allanfeydd tân, mannau ymgynnull a llwybrau dianc pan fyddwch yn cyrraedd.
Meddyliwch am yr hyn sydd ei angen arnoch cyn gadael a gadewch eitemau gwerthfawr mewn blwch diogelwch yn eich ystafell neu sêff y gwesty.
Marciwch ein henw a’ch rhif cyswllt neu e-bost ar eich bagiau - ar y tu fewn hefyd.
Cadwch lungopïau a manylion eich pasbort, dogfennau teithio, manylion bancio, manylion cardiau debyd a chredyd, rhifau cyfresol a manylion eich dyfeisiau a rhifau cyswllt pwysig megis llysgenhadaeth neu swyddfa is-gennad eich gwlad.
Gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun wrth gefn, megis mynediad at liniadur, pe byddech yn colli eich ffôn a rhifau cyswllt allweddol.
Peidiwch â gadael drws a ffenestri eich ystafell ar agor a heb eu cloi pan fyddwch yn ei gadael.
Peidiwch â gadael bagiau/cesys heb unrhyw un yn eu gwarchod hyd yn oed am ychydig eiliadau. Mae cynteddau gwestai yn denu lladron.
Ystyriwch wisgo gwregys arian.
Cadwch ffonau symudol, camerâu a gliniaduron wrth law a byth heb rywun yn eu gwarchod.
Byddwch yn ymwybodol o bigwyr pocedi.
Byddwch yn ymwybodol o pwy allai fod o gwmpas pan fyddwch yn defnyddio peiriant arian. Gweler rhagor am beiriannau arian.
Peidiwch byth â rhoi eich rhif PIN i unrhyw un, hyd yn oed os ydynt yn honni i fod yn swyddog cudd yr heddlu, gan fod achosion o’r fath wedi digwydd.
Peidiwch â phrynu tocynnau theatr neu gyngerdd gan 'dowts' yn y stryd - prynwch o ffynonellau dibynadwy yn unig.
Byddwch yn wyliadwrus o fariau yn ardal Soho y West End sy’n hysbysebu sioeau rhyw. Efallai y byddant yn codi prisiau uchel iawn am ddiodydd di-alcohol, a weinir fel arfer gan groesawferched. Efallai y codir arian arnoch hefyd am eu cwmni yn ogystal â’u diodydd. Felly byddwch yn ymwybodol iawn o ba fath o adeilad yr ydych yn mynd i mewn iddo ac os oes gennych amheuaeth peidiwch â mynd i mewn.