Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’n syniad da i edrych ar yr ardal o gwmpas peiriannau arian cyn eu defnyddio. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw un sy’n sefyll gerllaw ac edrychwch bob amser ar y peiriant i weld a oes rhywun wedi ymyrryd ag ef cyn eich bod yn ei ddefnyddio.
Y pethau i gadw llygad amdanynt yw dyfeisiau wedi’u gosod yn sownd wrth y peiriant - mae rhai yn fwy amlwg na’i gilydd. Os byddwch yn gweld rhywbeth amheus cysylltwch â’r heddlu a’r banc.
Cofiwch, os nad yw’n edrych yn ddilys cadwch draw ac, os yw hynny’n bosibl, ewch i mewn i’r banc lle bydd hi’n fwy diogel. Hefyd cadwch lygad yn rheolaidd ar eich trafodion.
Rydyn ni’n gwybod nad yw hi bob amser yn hawdd, ond ceisiwch fod yn ymwybodol o unrhyw un sy'n agos atoch pan fyddwch chi wrth ATM. Mae bod yn ymwybodol o'ch amgylchoedd a pheidio â gadael i ddim byd dynnu’ch sylw yn ei gwneud yn anos i bobl fanteisio ac yn llai tebygol y byddan nhw’n ceisio gwneud hynny.
Bydd lladron yn gwylio wrth ichi deipio’ch PIN neu’n tynnu’ch sylw wrth ichi godi arian. Byddwch yn effro. Cuddiwch eich PIN a chadwch lygad ar eich cerdyn bob amser. Os bydd rhywun yn tapio’ch ysgwydd neu'n ceisio siarad â chi, anwybyddwch nhw.
Ar ôl gadael yr ATM, cadwch eich cerdyn ar unwaith.
Dylech fod yn ofalus gyda chardiau digyswllt hefyd. Gallwch gael cas cardiau i atal manylion eich cerdyn rhag cael eu darllen yn anfwriadol.