Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma rai ffyrdd defnyddiol i gadw eich hun a’ch eiddo yn ddiogel ar y stryd.
Rydych yn llai tebygol o gael eich targedu os ydych yn ymddwyn yn hyderus. Symudwch yn bwrpasol a cheisiwch fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas.
Cynlluniwch eich taith a meddyliwch beth sydd ei angen arnoch, yn arbennig os ydych yn mynd i rywle nad ydych wedi bod o’r blaen. Cadwch at strydoedd a llwybrau cerdded prysur, wedi’u goleuo’n dda sy’n fwy tebygol o fod â theledu cylch cyfyng. Defnyddiwch dacsis trwyddedig yn unig sydd wedi’u harchebu dros y ffôn neu gan ddefnyddio ap ffôn.
Cadwch eich ffôn symudol ac eitemau gwerthfawr o’r golwg. Os ydych chi’n defnyddio eich ffôn mae’n fwy tebygol o gael ei gipio o’ch llaw gan nad ydych yn talu sylw i’r hyn sydd o’ch cwmpas, felly edrychwch o’ch cwmpas. Peidiwch byth â gadael ffôn symudol, waled neu bwrs ar fwrdd mewn caffi, tafarn neu fwyty awyr agored. Mae’r un peth yn wir am emwaith y gallech fod yn ei wisgo – cadwch hwy wedi’u gorchuddio pan fyddwch yn cerdded i lawr y stryd.
Yn olaf – ac mae hyn mor bwysig i’w gofio – os cewch eich bygwth â thrais, peidiwch â pheryglu eich diogelwch personol.