Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Efallai bod gennych syniad o sut mae pigwr pocedi yn edrych ond byddant yn debygol o fod yn llawer llai amlwg mewn torf nag y byddech yn ei ddisgwyl gan fod peidio â bod yn amlwg mewn torf yn rhan o sut y maent yn osgoi cael eu dal. Dyma sut i sylwi ar bigwr pocedi posibl ac osgoi colli eich eiddo i un ohonynt.
Mae’r rhain yn cynnwys pobl yn loetran mewn mannau cyhoeddus sydd fel petaent yn cadw llygad ar bobl sy’n mynd heibio, gan dalu sylw arbennig i’w bagiau llaw, bagiau siopa a lle maent yn cadw eu waled neu bwrs.
Er enghraifft, byddwch yn wyliadwrus o unigolion sydd fel petaent yn canolbwyntio eu sylw ar ardal o amgylch gwasg pobl eraill. Gall hyn fod yn arwydd o fwriad troseddol a lladrad posibl. Ond cadwch mewn cof bod rhai pobl yn naturiol swil a byddant yn osgoi cyswllt llygad. Gwrandewch ar eich greddf bob amser.
Mae pigwyr pocedi hefyd yn gweithredu mewn siopau, lle mae pobl yn fwy tebygol o fod yn sefyll yn llonydd, lle gallai rhywbeth ddenu eu llygad ac felly’n talu llai o sylw i’w heiddo, gan eu gwneud yn darged haws.
Byddwch yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas mewn siopau prysur a chanolfannau siopa oherwydd eu bod yn fannau delfrydol ar gyfer pigwyr pocedi, gan ei bod hi’n haws iddynt wthio heibio pobl, cymryd eitemau a diflannu yn y dorf.
Nid yw pigwyr pocedi bob amser yn gweithredu ar eu pen eu hunain, efallai y byddant yn gweithio mewn timau er mwyn tynnu sylw’r targed tra bod rhywun nas gwelir yn mynd â’r eitemau ac yn diflannu yn y dorf. Gall aelod arall gamu i mewn fel gorfodwr os bydd anghytuno.
Mae lladron yn amrywio eu tactegau yn seiliedig ar y lleoliad a maint y dorf. Un dacteg yw bod grŵp yn gwthio yn erbyn y dioddefwr mewn siop neu stryd brysur ac yna’n sydyn yn ymestyn i boced y dioddefwr a dwyn ei waled, ffôn neu bwrs.
Cofiwch, mae pigwyr pocedi yn fedrus iawn yn yr hyn maent yn ei wneud. Maent yn gwybod yr holl driciau ac yn grefftus iawn â’u bysedd, gyda’r rhan fwyaf o ladrata ond yn cymryd eiliad neu ddwy. Un o’u tactegau yw’r hyn a elwir yn ‘hugger mugging’ lle bydd lleidr fel petai’n or-gyfeillgar am ddim rheswm penodol ac yn rhoi cwtsh i chi tra’n dwyn o’ch poced.
Mae timau o bigwyr poced yn dda am dynnu sylw. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o gêm i floedd uchel, y cyfan wedi’i greu i dynnu eich sylw tra bydd cyd-leidr nas gwelir yn dwyn eich eitemau. Felly ceisiwch beidio â chael eich sylw wedi’i ddenu yn hawdd.
Cadwch eich pwrs a’ch bagiau wedi’u cau ac yn ddiogel bob amser
Cariwch fagiau ar flaen eich corff neu’n lletraws ar draws eich brest
Rhowch eich cardiau yn ôl yn eich pwrs neu waled yn gyflym a’i gau’n sownd
Defnyddiwch bwrs sy’n anodd ei agor. Un sydd â sip neu fotwm yw’r gorau, a chadwch ef wedi’i gau
Defnyddiwch wregys arian os ydych yn cario swm sylweddol o arian parod
Cuddiwch eich waled mewn poced â sip neu fotwm lle nad yw ei siâp yn amlwg
Cadwch restr, ar wahân i’ch waled a ffôn, o rifau cyswllt aelodau eich teulu rhag ofn y bydd eich ffôn yn cael ei ddwyn
Cadwch gopi o’ch tocynnau awyren, pasbort, cardiau credyd ac unrhyw ddogfennau eraill a fyddai’n amhosibl neu’n anghyfleus i gael rhai yn eu lle pe byddent yn cael eu dwyn
Peidiwch â gadael i bethau hongian dros gefn cadair
Peidiwch â gadael unrhyw beth ar gefn cadair wthio plentyn
Peidiwch â rhoi eich eiddo o’r golwg ar y llawr
Cofiwch, nid yw cael bag gyda sip yn golygu eich bod yn gwbl saff. Mae rhai lladron wedi cerdded y tu ôl i’w dioddefwyr gan ddad-sipio eu bag yn ofalus. Gallant fod mor hy â hynny. Peidiwch byth â thanbrisio’r hyn y gall pigwr poced ei wneud.