Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Twyll yw pan fydd person yn dweud celwydd wrthoch chi, neu’n eich ‘sgamio’ chi, i achub mantais, fel cymryd eich arian neu ddysgu gwybodaeth breifat amdanoch chi. Gallai hyn fod drwy e-bost, neges destun, ffôn neu’n bersonol, naill ai ar y stryd neu ar stepen eich drws.
Efallai y gall rhai oedolion fod yn arbennig o agored i dwyll a cham-drin ariannol. Os ydych chi'n poeni am rywun rydych yn ei adnabod, cysylltwch â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol a gofynnwch am Ofal Cymdeithasol i Oedolion.
Gydag ychydig wybodaeth, gallwch ddiogelu eich hun rhag y twyllwyr hefyd:
Am fwy o wybodaeth a help ac i riportio twyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Cofiwch y deg prif reol i’ch helpu i atal twyll a maeddu’r sgamwyr.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi datgelu sgam, wedi cael eich targedu gan sgam neu wedi dioddef twyllwyr, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu yn Action Fraud. Ffoniwch ni ar 101 os ydych chi'n adnabod y person dan amheuaeth neu os ydyn nhw yn yr ardal o hyd.
Ffoniwch ni ar 0800 40 50 40 os ydych chi'n adnabod y sawl sydd dan amheuaeth neu os ydyn nhw dal yn yr ardal.
Mae riportio trosedd, gan gynnwys twyll, yn bwysig. Os na fyddwch yn dweud wrth yr awdurdodau, sut maen nhw'n gwybod fod y peth wedi digwydd a sut allan nhw wneud unrhyw beth amdano?
Cofiwch, os ydych chi wedi dioddef sgam neu ymgais i sgamio, waeth pa mor fach, efallai y bydd cannoedd neu filoedd o bobl eraill mewn sefyllfa debyg. Efallai y bydd eich gwybodaeth yn rhan o un jig-so mawr ac yn hollbwysig i gwblhau'r darlun.
3,929KB