Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall siopa ar-lein arbed amser ac ymdrech ac mae’n rhoi dewis eang o nwyddau i chi o bob cwr o'r byd. Yn anffodus, er bod y rhan fwyaf o brynwyr a gwerthwyr yn bobl go iawn, mae twyllwyr yn defnyddio sgamiau siopa ar-lein oherwydd gallan nhw guddio pwy ydyn nhw a thargedu nifer o ddioddefwyr ar yr un pryd.
Gwnewch eich ymchwil i weld beth sy’n bris teg neu gystadleuol am nwyddau tebyg o’r un cyflwr; os yw'r cynnig yn swnio'n rhy dda, efallai na fydd yn bodoli mewn gwirionedd, bydd yn gynnig ffug neu o ansawdd israddol.
Mae twyllwyr yn defnyddio delweddau stoc neu ddelweddau pobl eraill yn aml, neu’n defnyddio’r un ddelwedd ar nifer o wefannau/hysbysebion. Gallwch fwrw golwg i weld a yw delweddau'n ymddangos mewn man arall ar y we drwy wefannau fel TinEye neu reverse.photos.
Dylech edrych ar hen adolygiadau’r prynwr neu’r gwerthwr i weld beth mae adolygwyr eraill wedi dweud amdanyn nhw. Byddwch yn ofalus o gyfrifon a allai fod wedi'u sefydlu'n ddiweddar iawn gyda llawer o adborth ffafriol sy'n swnio'n debyg. Gallai hyn fod yn arwydd o adolygiadau ffug.
Dylech wastad ddefnyddio’r safle talu sy’n cael ei argymell ar y wefan, os oes ganddyn nhw un, a darllenwch y telerau a’r amodau i ddeall yr hyn rydych yn cael eich amddiffyn ar ei gyfer. Os ydych chi'n talu mewn unrhyw ffordd arall yn hytrach na thrwy’r safle talu sy’n cael ei argymell, efallai na fyddwch yn gallu adennill eich arian.
Lle nad oes safle talu sy’n cael ei argymell, mae'n well talu gyda cherdyn credyd neu ddarparwyr taliadau trydydd parti hysbys na throsglwyddiadau banc uniongyrchol. Cadwch lygad ar eich cyfriflen banc neu gyfrif ar-lein yn rheolaidd.
Gwnewch yn siŵr bod y wefan rydych chi'n prynu arni yn un go iawn – ac nad yw’n safle ffug neu’n gopi o wefan - trwy deipio'r cyfeiriad eich hun a gwirio'r sillafu. Gan amlaf, mae cyfeiriadau ffug yn wahanol i’r rhai go iawn gydag un neu ddau o’r llythrennau’n anghywir.
Ymchwiliwch hanes gwerthu’r gwerthwyr a’r bobl eraill sy’n bidio. A chofiwch nad yw’r ffaith bod gwefan yn gorffen gyda ‘.co.uk’ yn golygu, o reidrwydd, ei fod wedi'i leoli yn y DU. Gwiriwch gyfeiriad y cwmni a'r rhif ffôn.
Peidiwch â gwneud taliadau dros WiFi anniogel (WiFi cyhoeddus neu WiFi sydd heb gyfrinair i gael mynediad iddo).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud taliadau ar safle diogel. Gallwch edrych i weld os yw’r ddolen yn ddiogel mewn dwy ffordd:
Yn ogystal â'r cyngor uchod, mae yna gamau pellach y dylech eu cymryd wrth brynu car sydd wedi’i hysbysebu ar-lein.
Dylech wastad edrych ar y cerbyd a’r gwaith papur cyn gwneud unrhyw daliad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb a ‘manylion y perchennog newydd’ (tystysgrif cofrestru V5C) wrth wneud y taliad.
Dylech wirio bod gan y V5C ddyfrnod y DVLA, a bod rhif adnabod y cerbyd (VIN) sydd wedi’i argraffu arno yn cyd-fynd â’r un sydd ar y cerbyd ei hun.
Mae’r VIN wedi’i stampio ar siasi y cerbyd, fel arfer yn y bae injan neu o dan y trim plastig o amgylch drws y gyrrwr neu’r teithiwr. Mae hefyd fel arfer yn cael ei arddangos ar waelod chwith y ffenestr flaen wrth edrych o'r tu allan i'r cerbyd, a/neu ar sticer y tu mewn i ddrws y gyrrwr neu’r teithiwr.
Peidiwch â theimlo pwysau i wneud unrhyw ragdaliadau (fel blaendal cadw neu ffi cludo) heb weld y cerbyd yn gyntaf.
Gallwch gynnal gwiriadau drwy gael gwiriad Hurbwrcasu (HPI) neu adroddiad tebyg i sicrhau nad yw’r cerbyd wedi’i ddwyn, ei glonio neu lle mae taliadau’n ddyledus arno, a gwiriad hanes MOT y DVLA.
Byddwch yn ofalus wrth brynu cerbydau o wlad arall, yn enwedig pan fydd ceisiadau am gostau allforio.
Defnyddiwch ddarparwyr talu trydydd parti cyfarwydd ar ôl gwirio’r telerau a’r amodau. Os ydych chi'n gwneud trosglwyddiad banc uniongyrchol, anfonwch y trosglwyddiad adeg casglu yn unig. Dylech osgoi defnyddio sieciau neu ddrafft banc.
Os ydych yn gwneud taliadau gydag arian parod, ystyriwch wneud hynny yn adeilad eich banc chi neu fanc y gwerthwr am ddiogelwch ychwanegol.
Byddwch yn ymwybodol o wefannau ffug: mae'r rhain yn wefannau ffug sy’n cael eu creu i edrych fel rhai go iawn i ddwyn eich manylion personol neu fancio pan fyddwch chi'n eu cyflwyno i'r wefan.
Gwiriwch gyfeiriad y wefan ar dop y bar cyfeiriad i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gymeriad yn anghywir. Edrychwch am ‘https’ ar ddechrau’r gwe-gyfeiriad a’r symbol clo (gweler uchod).
Y sgamiau mwyaf cyffredin sy’n digwydd ar safleoedd ocsiwn ar-lein, yw lle mae troseddwyr yn esgus gwerthu eitemau poblogaidd fel ffonau symudol, ceir a nwyddau cynllunwyr am brisiau rhatach.
Eu nod yw eich annog i drosglwyddo arian yn gyflym. Ar ôl i’r taliad gael ei wneud, maen nhw’n diflannu, a’ch gadael heb nwyddau (neu nwyddau diffygiol neu ffug) heb unrhyw ffordd o gael eich arian yn ôl.
Mae rhai troseddwyr yn creu ac yn gweithredu gwefannau twyllodrus sy’n esgus bod yn werthwyr ar-lein go iawn. Gall fod yn anodd gwahaniaethu oddi wrth y peth go iawn.
Weithiau mae troseddwyr yn esgus bod yn brynwyr ar safleoedd ocsiwn, gan anfon e-byst ffug fel prawf bod y taliad wedi’i drosglwyddo i’r gwerthwr go iawn. Daw ddim byd o’r taliad, ond mae'r nwyddau eisoes wedi'u hanfon.
Gall sgamwyr ddewis bid isel iawn, ac yna, drwy ddefnyddio enw arall, rhoi bid hynod o uchel. Toc cyn i’r bidio gau, bydd y bidiwr uchel yn tynnu nôl gan adael i fid isel y sgamiwr i ennill.
Mae sgamwyr yn defnyddio e-byst twyllodrus (gwe-rwydo) er mwyn esgus bod yn safleoedd talu neu safleoedd ocsiwn adnabyddus er mwyn dwyn eich manylion ariannol a/neu eich arian.
Gall fod yn anodd dod o hyd i sgamiwr ymhlith mwyafrif helaeth y prynwyr a'r gwerthwyr go iawn sydd ar-lein, ond mae yna rai dyfeisiau cyffredin maen nhw'n eu defnyddio a ddylai eich helpu i adnabod hysbysebion twyllodrus.
Wrth werthu nwyddau, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn cadarnhad am y taliad cyn anfon nwyddau. Gwiriwch eich cyfrif ar-lein bob tro neu gofynnwch i'ch banc sicrhau bod yr arian a gliriwyd wedi'i dderbyn.
Cymerwch luniau o’r eitemau cyn eu postio fel bod gennych brawf o’u cyflwr mewn achos o hawliad twyllodrus.
Mae twyllwyr yn anfon e-byst yn honni eu bod o gwmnïau adnabyddus, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i dalu neu’n honni bod taliadau wedi dod i law er mwyn dwyn eich manylion a'ch arian. Fel gwefannau ffug, mae'r e-byst gwe-rwydo hyn yn aml yn defnyddio cyfeiriadau e-bost tebyg a logos sydd wedi'u dwyn er mwyn edrych fel baent yn ddilys.
Mewn rhai achosion, mae twyllwyr yn ffugio cyfeiriadau go iawn. Gallwch wirio os yw e-byst yn negeseuon go iawn drwy gysylltu â’r cwmni yn uniongyrchol. Peidiwch â gwneud hyn drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt neu'r swyddogaethau sgwrsio byw ar yr e-bost a dderbyniwyd, defnyddiwch fanylion cyswllt cyfarwydd (ffôn yn ddelfrydol), neu fewngofnodwch i'ch cyfrif i gadarnhau.
Peidiwch ag ymddiried mewn e-byst digymell yn dilyn bidiau aflwyddiannus mewn arwerthiannau sy'n honni nad yw'r bidiwr gwreiddiol am brynu mwyach ac yn ei gynnig i chi yn lle hynny.
Get Safe Online
Yn darparu gwybodaeth ddiduedd, ymarferol, hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.
Action Fraud
Canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu. Yn darparu man cyswllt canolog am wybodaeth ynglŷn â thwyll a seiberddiogelwch.
0300 123 2040
Grŵp Cynghori Masnachu Cerbydau Diogel (VSTAG)
Fforwm o fewn y diwydiant a grëwyd i helpu i ddiogelu prynwyr a gwerthwyr rhag twyll yn ystod y broses o brynu a gwerthu ar-lein.