Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae twyll hunaniaeth, neu dwyll ‘ID’, yn ymwneud â defnyddio manylion person sydd wedi’u dwyn er mwyn troseddu. Nid yw llawer o ddioddefwyr byth yn cael gwybod sut yn union cafodd rywun afael ar eu manylion, a gall datrys pethau ar ôl hynny fod yn gostus ac yn straen.
Os ydych yn dechrau derbyn post i rywun nad ydych yn ei adnabod, ceisiwch weld pam.
Mae benthycwyr yn defnyddio’r rôl etholiadol i weld pwy sydd wedi cofrestru fel rhywun sy'n byw mewn cyfeiriad penodol.
Wrth gofrestru i bleidleisio, ticiwch y blwch i optio allan o’r gofrestr ‘wedi’i golygu’. Bydd hyn yn helpu i atal post marchnata a phost sothach digymell. Nid yw hyn yn effeithio ar eich gwiriadau credyd.
Gallwch hefyd:
Byddwch yn hynod ofalus o alwadau ffôn, llythyrau neu e-byst digymell wrth eich banc neu sefydliadau ariannol eraill yn gofyn i chi gadarnhau eich:
Cadwch lygad cyson ar eich cyfrifon banc a gofynnwch am gyfriflenni nad ydych chi'n eu derbyn pan rydych chi'n eu disgwyl.
Dylech gael gwared ar unrhyw beth sy'n cynnwys eich manylion personol neu fanylion bancio drwy ddefnyddio peiriant rhwygo neu eu rhwygo’n ddarnau mân.
Pan fyddwch yn derbyn eich cardiau banc, dylech gofrestru ar gyfer naill ai:
Gwnewch hyn hyd yn oed os nad ydych am ddefnyddio'ch cardiau ar-lein: mae'n helpu i'ch diogelu os yw eich cerdyn neu'ch manylion yn cael eu colli neu eu dwyn.
Os ydych yn credu bod rhywun yn camddefnyddio manylion eich cyfrif banc, rhowch wybod i'ch banc ar unwaith.
Peidiwch byth ag ateb negeseuon testun digymell, hyd yn oed i’w stopio. Dilëwch nhw.
Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Ffôn i atal galwadau ffôn marchnata.
Gosodwch feddalwedd gwrthfeirws ar eich ffôn.
Cadwch raglenni diogelwch eich cyfrifiadur, fel rhaglen gwrthfeirws a wal dân, yn gyfoes.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf eich porwr gwe a’ch system weithredu. Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hynny, gofynnwch i arbenigwr cyfrifiadurol neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
Byddwch yn wyliadwrus o ddolenni mewn ebyst digymell. Gallant gynnwys firysau neu raglenni eraill a allai niweidio eich cyfrifiadur.
Os ydych yn gwneud trafodiad ariannol ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod ar safle diogel. Gallwch wneud hynny drwy edrych ar y cyfeiriad, fel yr isod.
Fel arfer bydd gwefan yn dechrau gyda ‘http’ ond dylai safle diogel ddechrau gyda ‘https’. Er enghraifft, http://www.mybank.com yw cyfeiriad MyBank, yna os ydych am fynd i'r dudalen trafodion mae'n rhaid i chi fewngofnodi.
Ar y pwynt yma, mae’r bar cyfeiriad yn newid i rywbeth fel https://mybank/login.com. Bydd eicon clo yn ymddangos naill ai yng nghornel chwith isaf neu dde isaf eich bar porwr. Efallai y bydd y bar cyfeiriad hefyd yn newid lliw.
Os ydych chi'n cael ebost yn honni ei fod o'ch banc, yn gofyn i chi gysylltu â nhw, gofynnwch i'ch hun a yw'n ddilys. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni yn yr ebost. Agorwch ffenestr arall yn y porwr ac ewch i wefan eich banc gan ddefnyddio'ch dull arferol.
Edrychwch ar opsiynau diogelwch bancio ar-lein eich banc. Mae rhai yn cynnig meddalwedd gwrthfeirws a diogelwch porwr am ddim.
Ewch i Cyber Aware am gyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar gadw'ch dyfeisiau'n gyfoes â'r diweddariadau diogelwch diweddaraf, ac am gyngor pellach ar ddiogelwch ar-lein. Gallwch hefyd fynd i dudalen Seiberdroseddau am wybodaeth bellach.
Twyll eiddo yw pan fydd rhywun yn esgus bod yn chi ac yn defnyddio manylion eich hunaniaeth sydd wedi’i ddwyn i forgeisio neu hyd yn oed gwerthu eich tir, tŷ neu adeilad busnes. Yr eiddo sydd fwyaf mewn perygl yw'r rhai sydd wedi'u rhentu, yn wag neu'n ddi-forgais.
Diolch byth, mae’r math yma o dwyll yn anghyffredin, ond os ydych yn berchen ar eiddo, mae’n werth cymryd y camau syml isod i wneud yn siŵr nad yw’n digwydd i chi. Gall dadwneud y niwed ar ôl i chi ddioddef gymryd cryn dipyn o amser, yn ogystal â bod yn gostus ac yn straen.
Dylech:
Diogelu eich tir a’ch eiddo rhag twyll.
Am gyngor a gwybodaeth bellach am dwyll hunaniaeth, gallwch droi at:
3,929KB