Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a fygythiodd staff rheilffyrdd ac a ymosododd ar heddwas yng ngorsaf reilffordd Bangor wedi'i garcharu am 20 wythnos.
Ymddangosodd Bradley Norman, 22, ac o Cae Bold, Caernarfon, yn Llys Ynadon Caernarfon ar 23 Mehefin. Plediodd yn euog i ymosod ar weithiwr brys, trosedd trefn gyhoeddus adran 4, bod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant a difrod troseddol. Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 20 wythnos yn y carchar a'i orchymyn i dalu £120 mewn iawndal.
Am oddeutu 10.30am ar ddydd Gwener 19 Mehefin, gofynnodd Norman i aelod o staff y rheilffordd am allwedd i doiled yr orsaf. Pan nad oedd gan yr aelod o staff yr allwedd ar unwaith, daeth yn ymosodol tuag atynt ac aelodau eraill o staff, gan fygwth “torri eu gên”.
O ganlyniad i'w ymddygiad bygythiol, fe gyrhaeddodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y lleoliad ac arestio Norman am drosedd trefn gyhoeddus. Tra roedd yn cael ei gadw, fe anelodd ergyd at swyddog a'i gicio.
Ar ôl cael ei chwilio yn y ddalfa, canfuwyd bod gan Norman ganabis yn ei feddiant hefyd. Yna aeth ymlaen i droethi ar gell yr heddlu a phoeri ar gamera teledu cylch cyfyng.
Dywedodd Arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Karl Anderson:“Roedd hwn yn weithred ymosodol o drais tuag at bobl ddiniwed a oedd dim ond yn ceisio gwneud eu gwaith. Mae gan staff bob hawl i fynd i'r gwaith heb ofn trais ac ni fyddwn yn goddef y math hwn o ymddygiad ar y rheilffordd.
“Rwyf yn falch o weld y barnwr yn rhoi’r ddedfryd hon i Norman a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymchwilio i droseddwyr fel hyn a dod â nhw o flaen eu gwell.”