Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe gawsom ein galw i’r rheilffordd ger Llanbrynmair am 7.29pm ar 21 Hydref i adroddiadau am wrthdrawiad cyflymder isel rhwng dau drên.
Cafwyd ymateb aml-asiantaethol gan y gwasanaethau brys, gan gynnwys Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed Powys, a Gwylwyr y Glannau EF, ynghyd â chymorth gan y diwydiant rheilffyrdd.
Yn anffodus, mae dyn yn ei 60au wedi marw yn dilyn y gwrthdrawiad. Mae'r amgylchiadau a arweiniodd at ei farwolaeth dan ymchwiliad. Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod ac mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. Er nad yw adnabyddiaeth ffurfiol wedi digwydd ni chredir ei fod yn aelod o staff y rheilffordd. Mae ein meddyliau'n aros gyda'i anwyliaid ac rydym yn gofyn yn garedig iddynt gael preifatrwydd ar yr adeg hon.
Cafodd 15 o bobl eraill eu cludo i'r ysbyty ag anafiadau na chredir eu bod yn bygwth bywyd nac yn newid eu bywydau.
Cafodd yr holl deithwyr eraill eu gwagio'n ddiogel.
Rydym yn gweithio’n gyflym, ynghyd â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a’r diwydiant rheilffyrdd, i ddeall yr amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad hwn ac o ganlyniad bydd presenoldeb gwasanaethau brys parhaus yn yr ardal yn y dyddiau nesaf.