Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diweddariad am 5.30pm ar 27 Awst - Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Morgan:“Rydym wedi parhau i ymateb i’r digwyddiad mawr ar y rheilffordd ger Lllangennech trwy gydol y prynhawn yma, ochr yn ochr â llawer o’n partneriaid.
Mae swyddogion yn cynnal ymholiadau cychwynnol ac maent bellach wedi gallu edrych ar y trên o bellter diogel. Rydym yn aros am arweiniad pellach ar pryd y bydd yn ddiogel i ni gael mynediad llawn i'r olygfa.
Unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny, bydd ein cydweithwyr yng Nghyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio i asesu'r effaith amgylcheddol yn llawn a chynghori Network Rail ynghylch pryd y gall y gwaith o lanhau'r safle ddechrau
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Morgan:“Dros nos, fe wnaeth swyddogion o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y gwasanaeth ambiwlans a Chyngor Sir Caerfyrddin ddelio â digwyddiad mawr ar y rheilffordd ger Llangennech.
Rydym wedi lansio ymchwiliad a byddwn yn cynorthwyo'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau ar y Rheilffyrdd i sefydlu'r union amgylchiadau y tu ôl i'r digwyddiad.
Yr hyn rydym yn ei wybod yw bod trên nwyddau, a oedd yn cario llawer iawn o olew disel, wedi mynd ar dân ac mae nifer o'i wagenni hefyd wedi mynd oddi ar y cledrau. Diolch byth, er gwaethaf y perygl amlwg, ni adroddwyd am unrhyw anafiadau. Llwyddodd y ddau aelod o staff y rheilffordd a oedd yn gweithredu'r trên i godi'r larwm a dadfachu'r locomotif a'i symud i le diogel.
Roedd y tân yn arwyddocaol oherwydd maint y tanwydd yr oedd yn ei gario ac roedd yn roedd yn cyflwyno perygl posibl i'r gymuned ehangach.
Fel rhagofal, caewyd ffyrdd, a gwagiodd Heddlu Dyfed-Powys nifer fawr o gartrefi o fewn radiws i'r tân.
Rwy'n credu bod oddeutu 300 o bobl wedi cael eu heffeithio a hoffwn ddiolch i bawb am eu dealltwriaeth a'u camau gweithredu cyflym yn yr hyn yr oedd yn rhaid ei fod yn amser brawychus.
Ar yr adeg hon, nid yw achos y tân yn hysbys ac, wrth i'r tân barhau, mae risg sylweddol o hyd o fewn ei gyffiniau, felly rydym yn dal i gynghori pobl i osgoi'r ardal
Mae ein swyddogion yn cynnal ymholiadau cychwynnol ac wrthi'n casglu datganiadau tystion allweddol a theledu cylch cyfyng. Unwaith y bydd y tân wedi'i ddiffodd, a bod y lleoliad yn ddiogel i'w hasesu a'i hymchwilio, byddant yn cynorthwyo'r ORR a'r RAIB ymhellach yn y fan a'r lle.
Roedd hwn, ac mae'n parhau i fod, yn ddigwyddiad heriol iawn. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth a'u gwaith parhaus i sicrhau diogelwch y gymuned gyfagos."