Stamp amser presennol: 30/01/23 14:06:49
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

btp-header-logo-bilingual

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Tell us about possible terrorist activity
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Ffilmio
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Timau lleol

    Yn ôl i Timau lleol

    • De-orllewin Lloegr
    • Cymru
    • Canolbarth Lloegr
    • Pennines
    • Llundain
    • De Lloegr
    • Yr Alban

Briwsion bara

  1. ...
  2. Newyddion

Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu – wrth galon ein cymunedau

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Cymru

16:15 11/03/2021

Nhw yw’r wyneb cyfarwydd mewn gwisg, a phresenoldeb gweledol yr Heddlu sy’n tawelu’r meddwl ar draws Cymru ers 2003. Yr wythnos yma, byddwn yn eich cyflwyno i rai ohonynt, ac yn rhoi mewnwelediad i’r gwaith amrywiol maent yn ei wneud wrth galon ein cymunedau i wneud nhw’n lefydd gwell a mwy diogel.

Maent yn lleihau’r ofn o drosedd, yn cadw pobl yn ddiogel rhag niwed ac yn cynyddu ymddiriedaeth a hyder y gymuned trwy weithio gyda’r gymuned leol i daclo materion sy’n achosi pryder lleol.  

Mae SCCH yn hanfodol I lwyddiant plismona bro ac yn ddolen rhwng cymunedau lleol a’r heddlu. Mae’n yrfa sy’n chwarae rȏl ganolog yn y cymunedau hynny, ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn – ac i’r rhai mwyaf bregus.

Mae hyn wedi bod yn amlwg yn y rhan bwysig meant wedi chwarae yn ystod yr argyfwng iechyd, Coronafeirws. Maent wedi darparu yn gyson ymgysylltu positif ȃ chymunedau, defnyddio cynlluniau heddlu gogwydd problem i fynd i’r afael ȃ rheoli’r cyfnodau aros adref/ teithio hanfodol o’r pandemig. Maent hefyd wedi mynd i’r afael ȃ phryderon cymunedol trwy batrolau wedi eu targedu ar y cyd ȃ phartneriaid. Fe wnaeth y lluoedd yng Nghymru hefyd roi pwerau ychwanegol i SCCH i orfodi rheoliadau a rhoi hysbysiadau cosb benodedig mewn amgylchiadau eithriadol.  

Mae’n wahanol i fod yn Heddwas gwarantedig, gan nad oes ganddynt y pŵer i arestio, ond maent yn gallu caethiwo pobl pan fod angen, ac mae ganddynt bwerau dynodedig ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, alcohol, a hysbysiadau cosb benodedig er engraifft. Mae’r rȏl yn cefnogi heddweision mewn amrywiaeth eang o senarios ac maent wedi cymryd ymlaen nifer o rolau arbenigol fel datrys problemau.

Dywedodd Y Dirprwy Weinidog a Prif Chwip, Jane Hutt: “Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru ers 2011, ac yn y gyllideb diweddar fe wnaethom gadarnhau ein hymrwymiad ar gyfer 2021-22.

“Mae SCCH yn rhoi presenoldeb heddlu gweledol ar lefel lleol, yn tawelu meddwl y cyhoedd, yn deall anghenion lleol, yn pontio’r bwlch rhwng cymunedau a heddluoedd, ac yn helpu adeiladu Cymru mwy diogel a chynhwysol.

“Maent wedi gwneud gwahaniaeth anferth ar draws Cymru yn ystod yr ymateb i pandemig Covid-19 trwy helpu I daclo pryderon lleol a chefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Rwyf eisiau cymeradwyo a dathlu’r gwaith maent wedi ei wneud.”  

Ychwanegodd y Comisiynydd Alun Michael, Arweinydd Cymru dros Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ar SCCH: “Mae rȏl y SCCH yn cael ei werthfawrogi’n aruthrol gan gymunedau ym mhob cwr o Gymru, ac yn hanfodol yn y modd mae’r pump heddlu yng Nghymru yn cynnal plismona bro trwy gyfnod lle mae Llymder wedi arwain rhai heddluoedd yn Lloegr i symud i ffwrdd o ran o blismona yr ydym ni’n ystyried yn anhepgor. Mae’n rȏl sy’n cael ei werthfawrogi ynddo’i hun – tra fod swyddogion gwarantedig yn aml yn cael eu defnyddio I ymateb I heriau a digwyddiadau sy’n aml yn ddybryd ac yn arwyddocaol, pwrpas y SCCH yw I fod yna yn y gymuned bob amser – ac mae’n gweithio. Mae eu rȏl yn driphlyg: cyfathrebu trwy siarad ȃ cymunedau a gwrando I’r hyn mae’r cyhoedd yn ei ddweud, datrys problemau trwy weithio drwy materion bob dydd sy’n achosi pryder yn y gymuned, rhoi’r grym I gymunedau I helpu bobl leol I wella ansawdd bywyd lleol. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn golygu fod gennym dwbl y nifer o SCCH yn heddluoedd Lloegr ac mae hynny yn atgyfnerthu’r tȋm plismona cyfan yn eu rȏl o helpu ein cymunedau I fod yn gryf, diogel a hyderus. Ac mae’r storiau unigol o’r gwaith mae SCCH yn gwneud yn wirioneddol ysbrydoledig – gan ategu y gwaith gwych mae ein swyddogion a gweddill staff yr heddlu yn gwneud yng Nghymru.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter, Arweinydd Plismona ar Swyddogion Cefnogi Cymunedol ar draws Cymru: “Mae SCCH yn chwarae rȏl hanfodol yn ein cymunedau, ac rwy’n gwybod pa mor werthfawr maent a’r gwaith gwych maent yn ei wneud I atal trosedd a chysuro ein cymunedau ar draws Cymru. Mae’r pump llu yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru sy’n aiannu cyfran o SCCH dros Gymru gyfan. Mae hyn yn cynorthwyo i gynnal yr adnodd pwysig yma, mewn cyfnod lle fod gan Heddluoedd nifer o ofynion cyllid sy’n cystadlu a’u gilydd. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu eu gwaith, ac yn cydnabod eu hymrwymiad wrth I ni gyd weithio gyda’n gilydd I leihau niwed a throsedd yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen I glywed straeon rai o’n SCCH ymroddedig a phroffesiynol yr wythnos yma – efallai fydd pobl yn synnu ar yr ehangder ac amrywiaeth  o’u gwaith a’u heffaith arwyddocaol ar ein cymunedau.” 

Cyflwyno tri SCCH gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig; SCCH Gethin Griffith, SCCH Lewis Parsons a SCCH Alicia Demery.

Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – SCCH Gethin Griffith

SCCH Gethin

Ar ôl profi problemau parhaus gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys grwpiau o bobl ifanc yng ngorsaf reilffordd Caergybi, datblygodd SCCH Gethin Griffith gynllun datrys problemau amlasiantaethol i fynd i’r afael â’r mater. Cynhaliwyd patrolau rheolaidd, rhannwyd gwybodaeth â chydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru a chysylltwyd yn aml â staff rheilffyrdd a phorthladdoedd i roi sicrwydd a chael gwybodaeth bellach.

Roedd unigolion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn cael eu monitro, gyda'r rhai mwyaf aflonyddgar yn cael ymweliad gan swyddogion. Ymwelwyd â chwe chyfeiriad, ac nid yw'r unigolion wedi achosi unrhyw faterion ers hynny. Ar ôl nodi'r Wi-Fi am ddim fel atyniad i bobl sy'n loetran yn yr orsaf, gwnaed trefniadau gyda Trafnidiaeth Cymru a Stena line i gyflwyno terfyn amser.

Mae'r lleoliad wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae Gethin yn bwriadu gweithio gydag ysgol leol ar brosiect cymunedol, gan annog pobl ifanc i ymfalchïo yn eu tref enedigol trwy wirfoddoli i wella'r orsaf a'r ardaloedd cyfagos.

Codi ymwybyddiaeth o County Lines – SCCH Lewis Parsons

SCCH Lewis

Mae SCCH Caerdydd, Lewis Parsons, wedi gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o County Lines a Camfanteisio Rhywiol ar Blant (CSE) ymhlith y diwydiant rheilffyrdd. Y llynedd, cynhaliodd Lewis weithdai ymwybyddiaeth gyda bron i 200 o arweinwyr trenau ledled Cymru. Diolch i'r hyfforddiant hwnnw, mae cydweithwyr rheilffyrdd wedi gallu canfod pobl dan sylw, gan ganiatáu i'r BTP eu hatal ac amddiffyn dioddefwyr bregus.

Nodwedd gyffredin yng nghyflenwad cyffuriau County Lines yw ecsbloetio pobl ifanc a bregus, sy'n aml yn cael eu targedu i gludo cyffuriau ac arian. Mae Lewis wedi gweithio'n agos gyda Coleg Caerdydd a’r Fro i hyfforddi tiwtoriaid ar arwyddion rhybuddio a sut i ddiogelu disgyblion, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o CSE ymhlith myfyrwyr.

Gan gydnabod y materion nad ydynt yn stopio ar y rheilffordd, darparwyd hyfforddiant pellach i yrwyr tacsi, staff gwestai a gwarchodwyr diogelwch yn yr ardal, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Crimestoppers. Ar ôl adeiladu perthynas gref â Crimestoppers, yr elusen sy'n caniatáu i'r cyhoedd ddarparu gwybodaeth am droseddu 100% yn ddienw, mae Lewis bellach yn Llysgennad Crimestoppers i gynyddu ymwybyddiaeth o'u gwasanaeth ymhellach.

Mae Lewis hefyd wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd ac mae'n gobeithio helpu i ddatblygu pecyn cymorth cenedlaethol i fynd i'r afael â County Lines a CSE.

Lleihau tresmasu – SCCH Alicia Demery

SCCH Alicia

Mae gorsaf Masteg wedi bod yn destun tresmasu a materion ymddygiad gwrthgymdeithasol ers i'r cyfyngiadau cyntaf leddfu yr haf diwethaf. Gan gydnabod yr angen i gymryd agwedd gyfannol, ymunodd SCCH Alicia Demery â chydweithwyr o Heddlu De Cymru a Network Rail i fynd i'r afael â'r mater.

Gan rannu pryderon ynghylch tresmasu, gweithiodd Alicia gyda Network Rail i osod camerâu yn y lleoliad a gosod cicfyrddau a gatio yn yr orsaf. Roedd yr SCCH hefyd yn cynnal patrolau ar y cyd yn rheolaidd â Rheolwr Gweithrediadau Symudol Network Rail (MOM) i sicrhau nad oedd unrhyw ddifrod newydd wedi'i achosi i seilwaith y rheilffyrdd.

Gweithiodd Alicia gyda swyddog cyswllt ysgolion Heddlu De Cymru i addysgu pobl ifanc yn yr ardal am ddiogelwch rheilffyrdd a pheryglon tresmasu.

Hefyd, cynhaliwyd ymgryrch tair wythnos ar y cyd â Heddlu De Cymru i fynd i’r afael â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol yn yr ardal, a oedd yn cynnwys patrolau trên a gorsafoedd gweladwy uchel bob dydd ar hyd llinell Maesteg i wella gwelededd a thawelu meddwl staff staff a theithwyr fel ei gilydd.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyrchu gwybodaeth
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais

Partneriaid

  • Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.