Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a gostiodd bron i £7,000 o ddifrod i Drafnidiaeth Cymru ar ôl sbri graffiti 13 diwrnod wedi'i garcharu
Roedd Rufus Budd, 25 oed, heb gyfeiriad sefydlog, yn rhan o chwe digwyddiad rhwng 23 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2019, lle targedodd drenau, gorsafoedd, cabanau platfform a pheiriannau tocynnau mewn lleoliadau ledled De Cymru gan gynnwys gorsafoedd rheilffordd Wildmill, Parc Ninian a Grangetown
Arestiwyd Budd ar 5 Rhagfyr, ac wrth ei chwilio, canfuwyd ei fod â chyllell yn ei feddiant hefyd.
Ar 27 Ionawr, plediodd yn euog i chwe chyhuddiad o achosi difrod troseddol trwy baentio chwistrell ac un cyfrif o fod ag erthygl â llafn yn ei feddiant. Heddiw (7 Chwefror) yn Llys y Goron Casnewydd, cafodd ef ddedfryd o 16 mis a Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO).
Mae'r CBO, a fydd yn aros yn ei le hyd nes y bydd gorchymyn pellach, yn gwahardd Budd rhag teithio ar y rhwydwaith reilffyrdd heb docyn dilys ac yn ei wahardd rhag bod â phaent chwistrell ar y rhwydwaith reilffyrdd yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Craig Farrell: “Nid yw graffiti yn drosedd sydd heb ddioddefwyr - fandaliaeth ydyw mewn gwirionedd, sydd â goblygiadau ariannol enfawr i’r diwydiant rheilffyrdd a’r trenau y mae pobl yn teithio arnynt.
“Mae Budd yn droseddwr toreithiog sydd wedi achosi difrod helaeth mewn nifer o leoliadau. Rwyf yn gobeithio bod y ddedfryd hon yn anfon rhybudd clir na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ar y rheilffordd, ac y bydd y troseddwyr hyn yn cael eu dwyn gerbron y llysoedd. ”
Ychwanegodd Simon Turton, Pennaeth Diogelwch Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru: “Mae llawer iawn o waith yn digwydd bob dydd i gadw ein trenau a'n gorsafoedd i edrych ar eu gorau ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Felly, pan rydym yn dioddef fandaliaeth, mae'n dorcalonnus iawn.
“Rydym am i bobl fod yn falch o’u gorsaf leol, a dyna pam rydym wedi bod yn buddsoddi £194 miliwn yn ein gorsafoedd ac yn cefnogi ein mabwysiadwyr gorsafoedd cymunedol a’r gwaith gwych maent yn ei wneud.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn anfon neges go iawn na fyddwn yn goddef y math hwn o fandaliaeth ac y byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ddod â’r rhai sy’n gyfrifol o flaen eu gwell.”