Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (HTP) a Trafnidiaeth Cymru (TC) yn lansio ymgyrch ar y cyd dros gyfnod y Nadolig i gynnal diogelwch teithwyr yn ystod prysurdeb tymor yr ŵyl.
Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd Ymgyrch Genesis yn cynnwys swyddogion heddlu ychwanegol a staff rheilffyrdd yn gweithio ar draws y rhwydwaith yng Nghymru i helpu unrhyw un sydd ei angen, gyda phwyslais ar ddyddiau Gwener a Sadwrn. Mae hefyd yn anelu at atal troseddu yn rhagweithiol, yn ogystal â rhoi sicrwydd a chyngor diogelwch personol i'r cyhoedd.
Bydd yr Ymgyrch hefyd yn cynnwys cynnydd mewn patrolau amlwg gan yr heddlu ar drenau ac mewn gorsafoedd, yn ogystal â swyddogion dillad plaen i dargedu problemau, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae disgwyl i fis Rhagfyr, yn enwedig y penwythnosau, fod yn amser hynod o brysur, yn rhannol oherwydd y ffaith mai dyma fydd cyfnod cyntaf y Nadolig i beidio a chael unrhyw reolau yn ymwneud â Covid mewn grym ers 2019.Yn ogystal, mae gan fis Rhagfyr 2022 bedwar penwythnos y gallai pobl ddewis mynd allan i'w dathlu, yn hytrach na thri phenwythnos ym mis Rhagfyr 2021 (oherwydd bod dydd Nadolig ar ddydd Sadwrn).
Dywedodd Uwch-arolygydd HTP Cymru, Andy Morgan: "Gall adeg y Nadolig fod yn gyfnod llawn hwyl a mwynhad i lawer ac rydyn ni am i bawb sy'n dathlu ac yn ceisio mwynhau amser cymdeithasol gyda theulu a ffrindiau fod a theimlo'n ddiogel, felly byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn Nhrafnidiaeth Cymru i wneud popeth y gallwn i sicrhau bod hyn yn wir, ar draws Cymru a'r Gororau.
"Mae profi troseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn brin ac mae teithio ar drên yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf diogel o deithio. Fodd bynnag, yn ystod cyfnodau prysur gydol mis Rhagfyr, mae llawer mwy o bobl allan ac o gwmpas ac, yn anochel, mae rhai pobl yn yfed gormod o alcohol. Mae yfed gormod o alcohol yn effeithio ar farn ac yn aml mae pobl yn cymryd mwy o risgiau pan ydyn nhw o dan ddylanwad alcohol a gall ymddygiad ddirywio.Gall hyn hefyd arwain at y rhai o dan ddylanwad alohol yn peidio â gwrando ar gyngor diogelwch allweddol, sy'n gallu arwain at ganlyniadau trasig. Mae ymddygiad gwael hefyd yn effeithio ar lawer o deithwyr eraill ac wrth gwrs staff y rheilffyrdd. Mae hyn yn annerbyniol a byddwn yn cymryd safbwynt dim goddefgarwch pan fo'r fath feddwdod neu ymddygiad gwael yn amlwg.
"Yn ogystal â chael swyddogion ychwanegol wrth law ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, rydym hefyd am atgoffa teithwyr o'n gwasanaeth testun cynnil. Cadwch y rhif '61016' yn eich ffôn, rhag ofn i chi erioed fod angen ein cymorth ar y rheilffordd, neu os ydych yn dyst i ymddygiad mor annerbyniol."
Ychwanegodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg Trafnidiaeth Cymru: "Mae rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn un o'r rhai mwyaf diogel yn y DU, diolch i waith caled staff Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac ymddygiad cyfrifol y mwyafrif helaeth o'n teithwyr.
"Ar y cyd â HTP, eleni rydym yn cymryd mesurau ychwanegol i sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau'n ddiogel yn ystod yr hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod prysur dros yr ŵyl. Rydym am roiu sicrwydd i'n cwsmeriaid bod heddlu a diogelwch ychwanegol ar drenau a gorsafoedd, yn enwedig ar benwythnosau, yno i helpu i gadw pawb sy'n defnyddio ein rhwydwaith yn ddiogel. Gofynnwn i'n holl gwsmeriaid barchu ein staff a sicrhau eich bod mewn cyflwr diogel i deithio".
Os welwch chi rywbeth nad yw'n ymddangos yn iawn, tecstiwch HTP ar 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40. Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.Mewn argyfwng dylech chi bob amser deialu 999.
Gall aelodau'r cyhoedd hefyd lawrlwytho'r ap Railway Guardian, o ran aflonyddu rhywiol yn unig.Mae'r ap rhad ac am ddim hwn yn eich helpu i riportio troseddau i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac mae'n darparu gwybodaeth am beth i'w wneud os ydych yn gweld aflonyddu rhywiol ar drenau neu mewn gorsafoedd.
