Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pump o bobl ifanc wedi'u dedfrydu am Anhrhefn Dreisgar ar ôl digwyddiad yng Ngorsaf Reilffordd Castell-nedd
Plediodd pob un o'r pum diffynnydd, na ellir eu henwi oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol, yn euog i'r drosedd. Cafodd pedwar eu dedfrydu yn Llys Ynadon Abertawe ar 30 Ionawr ac un ar 9 Ionawr. Rhoddwyd rhybudd atgyfeirio ieuenctid naw mis i bob un ohonynt a gorchmynnwyd iddynt dalu cyfanswm o dros £600 mewn iawndal, gordal dioddefwr a chostau llys.
Ar 18 Mai 2019, ceisiodd un o’r bobl ifanc gerdded ar draws y cledrau yng Ngorsaf Reilffordd Castell-nedd. Pan heriodd aelod o’r cyhoedd nhw, fe wnaethon nhw - ynghyd â grŵp o bobl ifanc eraill yn eu harddegau - ymosod ar y fenyw 50 oed a’i gŵr.
Cafodd aelodau eraill o'r cyhoedd a geisiodd gynorthwyofân anafiadau hefyd gan y grŵp.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Dan Murdoch: “Roedd hwn yn weithred drais ysgytiol ac echrydus gan grŵp o bobl ifanc. Ymosodwyd ar y ddioddefwraig, a oedd yn pryderu am ddiogelwch y person ifanc a oedd yn tresmasu, ynghyd â’i gŵr ac aelodau eraill o’r cyhoedd yn ceisio tawelu’r sefyllfa, gan eu gadael ag anafiadau difrifol.
“Mae gan bobl yr hawl i deithio’n ddiogel ac ni fydd trais fel hyn ar y rheilffordd yn cael ei oddef. Rwyf yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn dysgu gwers werthfawr iddynt ac yn eu hatal rhag cyflawni unrhyw droseddau eraill yn y dyfodol.
“Rydym yn gweithio’n agos ag asiantaethau eraill ar fentrau lleol i atal y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag digwydd eto.”