Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn annog aelodau'r cyhoedd i gymryd gofal a rhagofalon ychwanegol pan ydyn nhw allan dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Yn benodol, mae BTP yn pryderu am y cynnydd mewn damweiniau fu bron â digwydd gyda threnau (pobl bron â chysylltu â thrên sy'n symud) yn ardal Conwy yng Ngogledd Cymru ac o'i hamgylch.
Dywedodd arolygydd Gogledd Cymru, Karl Anderson, o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
"Rydyn ni'n annog pawb i gymryd gofal ychwanegol wrth ddefnyddio croesfannau rheilffordd dros yr ŵyl ac i mewn i'r Flwyddyn Newydd. Yr adeg yma o'r flwyddyn, mae'n bosib y bydd pobl allan yn dathlu cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd gydag alcohol yn gysylltiedig, sy'n gallu arwain at wneud penderfyniadau gwael. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gallu bod yn lle peryglus, a dyna pam mae angen i bobl wneud y peth iawn wrth ddefnyddio croesfan wastad ar y rheilffordd ac, o dan unrhyw amgylchiadau, ni ddylai unrhyw un byth dresmasu. Mae tresmasu ar y rhwydwaith rheilffyrdd nid yn unig yn anghyfreithlon ac yn beryglus, ond gall fod yn farwol.
"Yn benodol, rydym wedi gweld cynnydd mewn damweiniau fu bron â digwydd ar y rhwydwaith rheilffyrdd rhwng Talacre a Llandulas yn ardal Conwy dros y misoedd diwethaf, felly byddem yn annog pwyll ychwanegol yn yr ardal hon yn benodol."