Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 42 oed wedi’i garcharu ar ôl ymosod yn rhywiol ar ddwy fenyw ifanc y tu allan i Orsaf Reilffordd Pont-y-pŵl.
Cafwyd Lutfullah Elham o Ffordd Llandegfredd, New Inn, yn euog o ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol yn Llys Ynadon Casnewydd ar ddydd Mawrth 11 Mehefin.
Cafodd ei ddedfrydu i 52 wythnos yn y carchar, a gorchmynnwyd iddo lofnodi’r Gofrestr Troseddwyr Rhywiol am 10 mlynedd,
Rhaid iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £272.
Clywodd y llys fod Elham wedi ymosod yn rhywiol ar fenyw 19 oed am hanner dydd, ar ddydd Iau 9 Mehefin 2022 yng Ngorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl ar ôl gofyn iddi am gyfarwyddiadau.
Ceisiodd y fenyw ifanc ddianc oddi wrtho ac arafodd cerbyd a oedd yn mynd heibio gan ddychryn Elham ac fe wnaeth ef adael y fenyw a mynd tuag at yr orsaf.
Ar ail ddigwyddiad ychydig ddyddiau’n ddiweddarach ar ddydd Mercher 15 Mehefin eto yng Ngorsaf Reilffordd Pont-y-pŵl am oddeutu 10am roedd menyw yn ei hugeiniau yn cerdded i ffwrdd o’r orsaf pan aeth Elham ati ar ei feic.
Fe gydiodd ef ynddi a cheisio ei chusanu cyn iddi lwyddo i ddianc.
Meddai’r swyddog ymchwilio DC Chris Bolton: “Mae’r ddau ddigwyddiad yma’n s dangospatrwm ymddygiad brawychus gan Elham, gan ysglyfaethu ar fenywod ifanc unigsy’n mynd o gwmpas eu busnes.
“Bydd Elham yn cael y cyfle i ystyried ei weithredoedd wrth dreulio cyfnod yn y carchar.
“Rydymyn cymryd pob adroddiad o ymosodiad rhywiol o ddifrif a gyda chefnogaeth lawn y dioddefwyr yn yr achosion hyn gallwn ni fod yn dawel ein meddwl na fydd Elham yn gallu niweidio unrhyw un arall.”
