Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi’i garcharu ar ôl iddo ymosod yn rhywiol ar fenyw 18 oed ar drên o Gaerdydd i Abertawe yr haf diwethaf.
Cafwyd Nicholas McMurray, o Fryn Goleu Abertawe, yn euog o Ymosodiad Rhywiol ac Ymosodiad trwy Dreiddio yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Mercher 5ed Chwefror.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar heddiw (28 Chwefror). Mae wedi cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin y llynedd, am oddeutu 8.45pm, aeth McMurray at y dioddefwr yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr trên ar gyfer Great Western Railway a gofyn am gael gwirio ei thocyn.
Wrth iddo basio ei sedd fe newidiodd y ffrog roedd hi'n ei gwisgo.
Ychydig cyn i'r trên gyrraedd Abertawe tra roedd y dioddefwr yn sefyll yn y cyntedd yn siarad ar ei ffôn symudol daeth McMurray ati ac ymosod yn rhywiol arni.
Parhaodd i ddal y ddioddefwraig nes i’r trên dynnu i mewn i’r orsaf a gwneud sylwadau rhywiol eglur wrthi cyn cyffwrdd â hi eto wrth iddi ddod oddi ar y trên.
Cysylltodd y ddioddefwraig yn ddewr â swyddogion yn yr orsaf a riportio'r digwyddiad. Daeth swyddogion o hyd i McMurray a oedd yn dal i sefyll wrth ymyl y trên disymud a'i arestio.
Cafodd McMurray ei ddiswyddo ar unwaith fel Rheolwr Trên i GWR ac nid yw bellach yn gweithio i'r cwmni.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Farrell: “Pan gafodd ei arestio, fe wnaeth McMurray ddweud celwydd wrth swyddogion gan ddweud bod y ddioddefwraig wedi ceisio ei chusanu a’i fod wedi'i gwthio i ffwrdd. Parhaodd ei gelwyddau mewn cyfweliad gan iddo honni bod y ddioddefwraig wedi cydsynio i’w weithredoedd”
“Fe wnaeth McMurray gam-drin ei swydd yn llwyr a manteisio ar y fenyw ifanc hon.
Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r ddioddefwraig am ei gwroldeb a’i dewrder drwy gydol ymchwiliad yr heddlu.
“Nawr bydd rhaid i McMurray dreulio cryn dipyn o amser i fyfyrio ar y camau a gymerodd y diwrnod hwnnw”
“Os ydych yn ddioddefwr, neu’n dyst i, drosedd rywiol ar y rheilffordd – rwy’n eich annog i'w riportio i BTP drwy decstio 61016. Byddwn ni bob amser yn eich cymryd o ddifrif.”
