Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) gynyddu patrolau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban dros yr ŵyl, mae swyddogion yn annog teithwyr i gadw'n effro ac i riportio unrhyw ymddygiad amheus gan ddefnyddio ein rhif testun cynnil, 61016.
Bydd swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen mewn gorsafoedd ac yn patrolio trenau ledled y wlad, yn cefnogi teithwyr gan fod disgwyl i niferoedd uwch deithio yn y cyfnod cyn ac yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Bydd teithwyr yn gweld timau Prosiect Servator yn cynnal patrolau amlwg iawn ac anrhagweladwy ar draws y rhwydwaith. Mae'r swyddogion hyn wedi'u hyfforddi'n arbennig i sylwi ar arwyddion sy'n awgrymu'r rhai sydd â bwriad troseddol neu derfysgol a byddant yn cael eu cefnogi gan adnoddau arbenigol fel cŵn chwilio a heddlu arfog i'ch cadw'n ddiogel.
Rydym yn annog teithwyr i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw ymddygiad amheus neu anarferol drwy siarad â swyddogion neu decstio 61016.
Gallwch hefyd ei riportio ar-lein drwy www.gov.uk/ACT neu ffonio'r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth gyfrinachol ar0800 789 321. Mewn argyfwng, ffoniwch999.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Sandra England: "Er ein bod i gyd yn edrych ymlaen at fwynhau tymor Nadoligaidd braidd yn 'normal' eleni, eich diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
"Wrth i lefelau teithwyr barhau i godi, mae gan bawb rôl hanfodol i'w chwarae o ran gwneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn amgylchedd gelyniaethus i droseddwyr a therfysgwyr. Byddwn ni'n cynyddu patrolau ar draws cyfnod y Nadolig gyda chefnogaeth dros 150,000 o gamerâu cylch cyfyng ar draws y rhwydwaith, ond rydym hefyd yn dibynnu ar deithwyr i fod yn llygaid a chlustiau i ni ar lawr gwlad.
"Ymddiriedwch yn eich greddf ac riportio troseddau neu unrhyw weithgareddau amheus i ni. Mae pob adroddiad yn cael ei gymryd o ddifrif."
"Cadwch 61016 yn eich ffôn, dydych chi byth yn gwybod pryd efallai y byddwch chi ein hangen. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser."
