Stamp amser presennol: 05/08/2026 01:41:49
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

British Transport Police force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Tell us about possible terrorist activity
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Yn ôl i Timau lleol

    • De-orllewin Lloegr
    • Cymru
    • Canolbarth Lloegr
    • Pennines
    • Llundain
    • De Lloegr
    • Yr Alban
  1. ...
  2. Newyddion

Partneriaid yn ymuno ar gyfer wythnos o weithredu i fynd i'r afael â throseddau metel a gwastraff

Cynnwys y prif erthygl

Cymru Lloegr Yr Alban
Cyhoeddwyd: 15:38 19/10/2020

Yr wythnos ddiwethaf, cymerodd swyddogion ac asiantaethau partner ledled y DU ran mewn wythnos genedlaethol o weithredu yn y frwydr barhaus yn erbyn troseddau metel a gwastraff.

Yn ystod yr wythnos, dan arweiniad Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gwelwyd heddluoedd o bob cwr o'r wlad yn ymuno ag arbenigwyr o'r Cyd-Uned Troseddau Gwastraff (JUWC), Historic England, Network Rail, BT a sefydliadau seilwaith cenedlaethol eraill, i gyflawni camau gorfodi cydgysylltiedig.

Rhwng dydd Llun 12 a dydd Gwener 16 Hydref, daeth mwy na 45 o bartneriaid ynghyd i ghwblhau dros 500 o ymweliadau â delwyr metel sgrap, datgymalwyr cerbydau a safleoedd gwastraff anghyfreithlon, ac i stopio dros 800 o gerbydau.

Gwnaed chwe arestiad, nodwyd 70 o warediadau y tu allan i'r llys am droseddau, ymchwiliwyd i 69 o droseddau eraill ac adferwyd deg llwyth o eiddo wedi'i ddwyn.

Yn ystod yr ymweliadau a'r gwiriadau hyn, bu swyddogion yn chwilio am fetel wedi'i ddwyn, ac yn archwilio cofnodion ariannol masnachwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Ddeddf Delwyr Metel Sgrap

Cyfrannodd cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn 2013, a gyflwynodd gofynion trwyddedu llym ar ddelwyr a gwiriadau hunaniaeth i bobl sy'n gwerthu metel sgrap, at ostyngiad sylweddol mewn dwyn metel.

Er gwaethaf hyn mae dwyn wedi parhau, wrth i rai troseddwyr fanteisio ar rwydwaith tawelach yn ystod y pandemig Covid-19 i dargedu lleoliadau ynysig.

Fel rhan o'r wythnos, cynhaliodd y JUWC gyfres o archwiliadau safleoedd gwastraff i sicrhau bod busnesau'n dal trwyddedau amgylcheddol ac yn diwallu gofynion cyfreithiol eraill.

Mae'r tasglu, a lansiwyd ym mis Ionawr 2020, yn dwyn ynghyd asiantaethau gorfodi'r gyfraith, rheoleiddwyr amgylcheddol, Cyllid a Thollau EM a'r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol i dargedu'r rhai sy'n delio â throseddau difrifol a threfnedig ym maes gwastraff. Mae'r cyflawnwyr hyn yn aml yn ymwneud â gweithgareddau troseddol trefnedig eraill, gan gynnwys troseddau metel.

Ymhlith y sectorau y mae troseddau metel a gwastraff yn effeithio'n ddifrifol arnynt mae trafnidiaeth, pŵer a thelathrebu. Mae safleoedd treftadaeth, gan gynnwys addoldai, hefyd yn cael eu targedu fwyfwy wrth i fetel gael ei ddwyn o doeau ac allorau, gan achosi difrod strwythurol anadferadwy a cholled hanesyddol.

Dywedodd Arweinydd Cenedlaethol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar gyfer Troseddau Metel, yr Uwch-arolygydd Mark Cleland: “Nod yr wythnos oedd rhoi sylw ar y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â throseddau metel a gwastraff, annog pobl i riportio digwyddiadau a rhybuddio darpar droseddwyr y byddwn yn gweithredu yn eu herbyn.

“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled y wlad a ledled y diwydiant ailgylchu metelau i dargedu'r rhai rydym yn amau eu bod yn diystyru'r gyfraith neu'n gweithredu y tu allan i'w trwydded.

“Trwy fabwysiadu ymagwedd amlasiantaethol, rydym yn cynyddu ein gallu i adnabod y rhai sy'n ymosod ar ein seilwaith cenedlaethol a'n hadeiladau hanesyddol, gan ei gwneud yn anoddach iddynt werthu metel wedi'i ddwyn ac elwa o'u gweithgareddau.”

Dywedodd y Gweinidog Troseddu a Plismona, Kit Malthouse:“Gall troseddau metel a gwastraff gael effaith sylweddol ar y rhai sy’n cael eu targedu.

“Rwf y’n croesawu’r wythnos hon o weithredu, sydd wedi gweld partneriaid yn sicrhau canlyniadau sylweddol gyda’i gilydd i fynd i’r afael â throseddau metel.

“Mae’r Ddeddf Delwyr Metel Sgrap yn parhau i fod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y math hwn o droseddoldeb.”

Dywedodd Phil Davies, swyddog gorfodi JUWC:“Mae'r ymgyrch hon yn dangos sut mae'r Cyd-uned ar gyfer Troseddau Gwastraff yn dod â gwahanol asiantaethau ynghyd o bob rhan o'r DU i atal troseddwyr sydd nid yn unig yn ymwneud â throseddau gwastraff ond hefyd â llawer o weithgareddau anghyfreithlon eraill sy'n effeithio'n ddifrifol ar gymunedau a'r amgylchedd.

Rydym yn gwybod y bydd troseddwyr yn defnyddio gwahanol fathau o wastraff fel modd i sicrhau enillion ariannol sylweddol, a thrwy ddefnyddio adnoddau a phwerau cyfun gwahanol asiantaethau, byddwn yn parhau i dargedu, aflonyddu a dwyn y mentrau troseddol hyn o flaen eu gwell.”

Dywedodd Mark Harrison, Pennaeth y Strategaeth Troseddu Treftadaeth yn Historic England:“Mae dwyn metel o adeiladau eglwysig hanesyddol yn droseddu difrifol a threfnedig. Mae tynnu darnau mawr o blwm neu gopr o doeau nid yn unig yn cael effaith ariannol ddifrifol ar gymunedau eglwysig, ond hefyd yn cael effaith enfawr ar eu morâl.

“Bydd gan y metel a gafodd ei ddwyn werth hanesyddol a diwylliannol ac mae ei dynnu'n arwain at ddifrod anadferadwy i safleoedd ac adeiladau hanesyddol gwarchodedig, a dyna pam mae mynd i’r afael â’r broblem hon mor bwysig.

“Yn Historic England rydym yn gweithio gyda phartneriaid i asesu graddfa’r broblem dwyn metel ledled y wlad ac yn datblygu ymagwedd genedlaethol gydgysylltiedig tuag at amddiffyn yr eglwysi hynny sydd â’r risg uchaf o brofi troseddu.

“Yn ogystal â chomisiynu dadansoddiad manwl o’r math hwn o drosedd mewn cydweithrediad â Heddlu Caint ac OPAL - yr Uned Cudd-wybodaeth Genedlaethol ar gyfer Troseddu Caffael Difrifol a Threfnedig, wedi'i lleoli gyda Heddlu West Mercia ac Arweinwyr Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer Troseddu Treftadaeth ac Eiddo Diwylliannol a Dwyn Metel, rydym yn datblygu cyfres o fesurau i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i atal ac ymchwilio i'r math treiddiol hwn o droseddoldeb.

“Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant i dimau heddlu lleol i nodi metel treftadaeth sydd wedi’i ddwyn pan ydynt ar ddyletswydd, annog delwyr metel sgrap, mwyndoddwyr ac iardiau achub i gysylltu â’r awdurdodau pan gânt gynnig deunyddiau yr amheuir eu bod wedi'u dwyn, a sicrhau bod gan eglwysi a chymunedau fynediad at gyngor arbenigol a fydd yn caniatáu iddynt asesu risg a gweithredu mesurau ataliol effeithiol.

"Yn ei dro bydd y camau hyn yn galluogi cynulleidfaoedd a chymunedau lleol i leihau’r difrod a’r golled os ymosodir arnynt neu drefnu’r mesurau angenrheidiol i atal troseddu'n gyfan gwbl. Bydd yr asesiad yn cael ei gydlynu gan Andy Bliss, cyn Brif Gwnstabl Heddlu Swydd Hertford, Mark Harrison, Pennaeth y Strategaeth Troseddu Treftadaeth ar gyfer Historic England a bwrdd o ymarferwyr arbenigol.”

Cyngor ar sut i atal troseddau metel a gwastraff:

  • Riportiwch unrhyw weithgaredd amheus– Os gwelwch unrhyw weithgaredd amheus, riportiwch ef i'r heddlu trwy ffonio 101, neu 999 os oes trosedd ar y gweill. Os gwelwch rywbeth ar y rheilffordd, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Dylid cyflwyno adroddiadau am droseddau metel a gwastraff cyn gynted â phosibl er mwyn cynyddu'r siawns o ganfod.
  • Gwnewch ef yn anoddach i'w ddwyn - Mae mynd i'r afael â'r drosedd yn ymwneud ag atal cymaint â chanfod. Rydym yn annog pobl i aros yn wyliadwrus ac ystyried mesurau diogelwch i amddiffyn asedau metel, megis storio mewn lleoedd diogel a buddsoddi mewn dyfeisiau diogelwch.
  • Gwnewch ef yn anoddach cael gwared arno - Mae marcio eiddo yn ei gwneud yn anoddach cael gwared â metel ac yn helpu'r heddlu i'w olrhain os yw wedi'i ddwyn. Mae marcio eiddo ar gael ar gyfer y mwyafrif o asedau metel o drawsnewidwyr catalytig i arteffactau hanesyddol.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyrchu gwybodaeth
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais

Partneriaid

  • Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
  • Riportio gan Gwmni Gweithredu Trenau

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.