Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diogelwyd plant agored i niwed a datgymalwyd llinellau cyflenwi cyffuriau wrth i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) gymryd rhan mewn wythnos genedlaethol o weithredu lefel uwch i darfu ar weithgarwch Llinellau Cyffuriau.
Ar draws 106 o weithrediadau o 7–13 Mawrth, arestiodd swyddogion 70 o bobl, gwnaeth 58 o atafaeliadau cyffuriau, tynnwyd 21 o arfau peryglus o'r rheilffordd a diogelwyd 22 o bobl agored i niwed, gan gynnwys 17 o blant.
Nod yr wythnos oedd rhyng-gipiwyd cyffuriau wrth iddynt gael eu symud rhwng lleoliadau gan ddefnyddio'r rheilffordd, arestiwytd y troseddwyr a oedd yn eu gwerthu a diogelwyd plant ac oedolion agored i niwed a oedd yn cael eu hecsbloetio yn y gweithgarwch hwn.
Wedi'i arwain gan Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP, cynhaliwyd y gweithrediadau ar lwybrau trên allweddol ac mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a gefnogwyd yn aml gan heddluoedd rhanbarthol.
Roedd yr adleoliadau'n cynnwys swyddogion mewn iwinifform a dillad plaen, cŵn cyffuriau goddefol a bwâu canfod metel yn ogystal ag arbenigwyr mewn camfanteisio ar blant a secondiwyd i Dasglu BTP o'r trydydd sector.
Ochr yn ochr â'r wythnos o weithredu, hyrwyddodd BTP yr ymgyrch ymwybyddiaeth Edrych yn Agosach a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas y Plant.
Nod yr ymgyrch yw addysgu gweithwyr rheilffordd a theithwyr ar yr arwyddion o gamfanteisio ar blant, a riportio unrhyw bryderon i'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams, arweinydd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP: "Mae canlyniadau'r wythnos ddiwethaf yn dangos sut rydym yn amharu ar y rhwydweithiau hyn ac yn amddiffyn pobl ifanc a bregus rhag gangiau llinellau cyffuriau gwenwynig.
"Nid yw hyn yn ddigwyddiad untro i ni – mae fy nhimau arbenigol ar y rhwydwaith rheilffyrdd bob dydd yn mynd i'r afael â'r gweithgarwch hwn. Rydym mor benderfynol ag erioed o olrhain troseddwyr ar frig y gadwyn a dwyn nhw i gyfiawnder.
"Gall unrhyw un gael ei ecsbloetio, does dim 'dioddefwr perffaith'. Dyna pam rydym ni, ynghyd â'n partneriaid elusennol a'n cydweithwyr ym maes plismona, yn annog pawb ar y rheilffordd i ddysgu arwyddion o gamfanteisio ar blant a riportio unrhyw bryderon i ni drwy decstio 61016."
Dywedodd y Gweinidog Troseddau a Phlismona Kit Malthouse: “Ers yn rhy hir mae’r rhwydwaith rheilffyrdd wedi cael ei gam-drin gan gangiau dinistriol County Lines, ond rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun ymrwymiad Heddlu Trafnidiaeth Prydain a gyda’n gilydd rydym yn amharu ar y model busnes gwenwynig hwn.
“Trwy fynd i’r afael yn ddiflino â gweithgarwch llinellau sirol ar y rhwydwaith rheilffyrdd, maent yn rhwystro gwerthwyr cyffuriau ac yn gwneud ymyriadau wedi’u cyfrifo’n ofalus sy’n achub plant a’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas o afael y bywyd peryglus hwn.
“Fel rhan o Strategaeth Gyffuriau deng mlynedd y Llywodraeth, rydym yn buddsoddi hyd at £145m yn fwy yn ein Rhaglen Llinellau Sirol lwyddiannus dros y tair blynedd nesaf, a fydd yn cynnwys cryfhau ymdrechion y tasglu ymroddedig hwn.”
Dywedodd James Simmonds-Read, Rheolwr Cenedlaethol rhaglen Atal Cymdeithas y Plant: "Mae'n hanfodol bod yr heddlu'n nodi achosion lle mae troseddwyr wedi manteisio ar blant, fel y gellir cynnig amddiffyniad a chefnogaeth iddynt.
"Efallai fod pobl ifanc yn rhy ofnus i ddweud wrth rywun beth sy'n digwydd neu a allai fod wedi cael eu trin i feddwl eu bod yn gwneud dewis. Dyna pam mae Edrych yn Agosach yn annog pawb – nid dim ond yr heddlu a gweithwyr proffesiynol eraill – i chwilio am arwyddion o gamfanteisio ar blant ym mhob man cyhoeddus a riportio pryderon.
"Mae hyn yn cynnwys cymudwyr a phobl sy'n gweithio mewn gorsafoedd rheilffordd ac ar drenau, oherwydd rydym yn gwybod bod troseddwyr sy'n camfanteisio ar blant mewn gweithrediadau llinellau cyffuriau yn aml yn eu gorfodi i ddefnyddio cludiant cyhoeddus i symud cyffuriau i ardaloedd eraill."