Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
BTP wedi cyflawni carreg filltir trwy fod yr heddlu cyntaf yn y DU i benodi dyn agored hoyw i rôl y Prif Gwnstabl.
Adrian Hanstock, sydd wedi bod yn Ddirprwy Brif Gwnstabl BTP ers 2014, fydd Prif Gwnstabl Dros Dro y llu hyd nes y bydd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu Metropolitanaidd Lucy D'Orsi yn ymuno â BTP fel ei Brif Gwnstabl parhaol yn ddiweddarach eleni.
Mae penodiad Mr Hanstock yn ystod Mis Hanes LGBT+ yn bwynt canolog mewn plismona a'i uchelgeisiau amrywiaeth. Er bod mwy a mwy o swyddogion heddlu sy'n cychwyn ar eu gyrfaoedd yn fwy abl i fod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol o'r cychwyn cyntaf, mae Mr Hanstock wedi siarad yn agoredam fethu â gwneud hynny ar ddechrau ei yrfa ei hun yn yr 1980au.
Gan fyfyrio ynghylch ei benodiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Dros Dro Hanstock, QPM:
“Wrth i Fis Hanes LGBT+ ddirwyn i ben, rwy’n teimlo ei bod yn berthnasol cymryd cipolwg ar y gorffennol os ydym am ddeall pa mor bell rydym wedi dod. Wrth wneud hynny gallwn ystyried a sylweddoli y gall rhwystrau artiffisial, er mor anhreiddiadwy y gallent fod wedi ymddangos ar y pryd, (yn y pen draw) gael eu gwthio o'r neilltu a gall swyddogion heddlu gynllunio eu gyrfa mewn plismona heb ofni barn na gwahaniaethu.
“Byddwn i'n sicr yn gobeithio na fydd unrhyw un byth yn teimlo bod rhaid iddynt wneud dewis rhwng eu huchelgais, neu a ddylid aros yn ddilys i'w gwerthoedd personol yn 2021. Mae'n hanfodol bod pobl mewn unrhyw broffesiwn yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi am eu gallu a'u craffter, yn hytrach na'u barnu ar farnau goddrychol. Ac wrth imi agosáu at fy mlwyddyn olaf o'r hyn sydd wedi bod yn yrfa werth chweil a hynod ddiddorol, ni allaf ond gobeithio fy mod, ag ymdrech ac esiampl, wedi ennill enw da fel model rôl llawer mwy ysbrydoledig a goleuedig nag a brofais ar y pwynt yr ymunais â'r gwasanaeth.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Julie Cooke, Arweinydd Portffolio LGBT+ Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu:
“Rwy’n falch iawn bod Adrian wedi’i benodi’n Brif Gwnstabl gwryw hoyw agored cyntaf ym Mhlismona’r DU. Rwy'n siŵr y bydd BTP hefyd yn teimlo'n debyg gan fod dwy eiliad arwyddocaol yn syth ar ôl ei gilydd gydag Adrian ac yna bydd Lucy yn ei ddilyn fel Pennaeth benywaidd cyntaf BTP.
“Mae Adrian bob amser wedi bod yn fodd cynnal i mi yn fy rôl fel arweinydd LGBT+ NPCC ac fel y swyddog heddlu hoyw gwrywaidd uchaf, rwy’n ei weld fel model rôl ac yn rhywun sydd wedi sefyll allan ac wedi gallu bod yn ef ei hun. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio i raddau helaeth ar geisio galluogi plismona i fod yn lle y gall pawb o bob cefndir amrywiol fod yn nhw eu hunain - ond gall hyn fod yn anodd iawn weithiau. Heb os, bydd Adrian wedi rhoi hyder i lawer o swyddogion heddlu a staff LGBT+ dros y blynyddoedd i ddod allan a bod yn onest ynglŷn â phwy ydyn nhw a thrwy ei weld yn rôl y Prif Gwnstabl, bydd yn rhoi cefnogaeth bellach i lawer o bobl ym maes plismona. Mae angen i ni weld llawer mwy o amrywiaeth yn einswyddi uwch ym maes plismona, ond mae Adrian wedi paratoi'r ffordd i alluogi eraill i ddilyn.”
Dywedodd Paul Griffiths, Llywydd Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu:
“Ar ran Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu, anfonaf ein llongyfarchiadau cynhesaf at DCC Hanstock ar ei benodiad dros dro i’r swydd bwysig hon. Fel y dyn agored hoyw cyntaf i wasanaethu ar lefel prif gwnstabl, mae hon yn wir yn garreg filltir i’n Gwasanaeth, ac yn nodyn atgoffa rhywun o’r gwaith hanfodol sydd ei angen o hyd i greu gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau ar bob rheng.
“Mae cynhwysiant y gweithlu wedi’i wreiddio mewn dealltwriaeth a chynrychiolaeth eang ar bob lefel. Fel arweinwyr, rydym yn gweld pwysigrwydd amrywiaeth, er mwyn galluogi swyddogion a staff i deimlo'n hyderus wrth fod yn nhw eu hunain yn y ffordd onest a gorau. Dyna pam mae’r PSA wedi bod yn hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth ers amser maith, gan hyrwyddo pwysigrwydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant fel uwch arweinwyr gweithredol ein Gwasanaeth. ”
Dywedodd Nigel Goodband, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
“Mae modelau rôl amlwg yn helpu i ddangos y ffordd i bobl eraill; mae'n anodd bod yr hyn na allwch ei weld. Gyda Mr Hanstock mae gennym rywun sydd bob amser wedi ceisio hyrwyddo amrywiaeth ac wedi gwneud hynny'n amlwg iawn.
Mae cymaint wedi newid er gwell yn y gwasanaeth heddlu. Nid blynyddoedd lawer yn ôl y bu swyddogion yn poeni am effaith eu rhywioldeb ar eu siawns o gyflawni rolau penodol neu gyflawni dyrchafiad. Mae mwy o waith i'w wneud gennym i gyd, wrth gwrs, ond mae penodiad Mr Hanstock yn garreg filltir ac yn un y gobeithiwn ni a fydd yn anfon neges glir a chalonogol i'n cydweithwyr. "
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Bywgraffiad - Y Prif Gwnstabl Dros Dro Adrian Hanstock
Wedi'i eni yn Swydd Nottingham, cychwynnodd Adrian Hanstock ei yrfa fel clerc Cofnodion Troseddol gyda Heddlu Swydd Nottingham lle cafodd ei swyno gan fanylion troseddau ac ymchwiliadau a nodwyd mewn adroddiadau troseddau'r archif y gofynnwyd iddo ymchwilio iddynt.
Daeth yn gwnstabl heddlu ym 1985 yn union fel y daeth streic y glöwr cenedlaethol i ben ac roedd yn phatrolio’r rownd yn Sutton-in-Ashfield, tref lofaol fach yng ngogledd Swydd Nottingham lle cafodd ei gyflwyno gyntaf i heriau a gwobrau plismona yn y gymuned.
Gan weithio ei ffordd i fyny trwy'r rhengoedd, ac yn ennill enw da fel ditectif ymroddedig ac arweinydd blaengar, trosglwyddodd i'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd ar ddiwedd y 1990au lle arweiniodd ymgyrchoedd sensitif iawn i frwydro yn erbyn troseddau gynnau a masnachu cyffuriau trefnedig, yn ogystal ag ymholiadau i droseddau rhywiol difrifol.
Yn dilyn cyfnod yn arwain plismona ym Mwrdeistref Enfield yng Ngogledd Llundain, mynychodd y Cwrs Rheolaeth Strategol yng Ngholeg yr Heddlu Bramshill, gan ddod yn Gomander yn 2011.
Roedd gan Mr Hanstock rôl sylweddol yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012 gan gymryd rheolaeth weithredol bob dydd ac yn sicrhau y gallai cystadleuwyr rhyngwladol, pwysigion a gwylwyr deithio'n ddiogel rhwng lleoliadau Olympaidd ac o amgylch Llundain trwy gydol y Gemau.
Dyfarnwyd Medal Heddlu’r Frenhines i Mr Hanstock yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn 2021 am ei gyfraniad sylweddol i blismona’r DU dros yrfa 37 mlynedd
DIWEDD