Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 668,000 o negeseuon testun wedi eu hanfon at Heddlu Trafnidiaeth Prydain gan aelodau o'r cyhoedd a staff y rheilffyrdd yn ystod y deng mlynedd diwethaf - gan arwain at euogfarnu troseddwyr, achub bywydau a datgymalu llinellau cyffuriau.
Ac heddiw, mae gwasanaeth 61016 yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed.
Ddegawd ar ôl iddo ddechrau, mae neges destun bellach yn cael ei derbyn bob dau funud i ganolfan gyswllt y llu yn ystod oriau dydd.
Ac yn 2022 yn unig, derbyniodd y llu destunau yn ymwneud â 472 o adroddiadau o aflonyddu rhywiol, 540 o ddigwyddiadau'n ymwneud â throsedd rhywiol, 573 o droseddau casineb a 434 o adroddiadau o ddwyn.
Cafodd y gwasanaeth testun 61016 ei lansio gan BTP yn 2013 i roi'r opsiwn i unrhyw un sy'n riportio trosedd anfon neges destun yn hytrach na galw'r heddlu mewn argyfwng.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Charlie Doyle: "Roedden ni eisiau rhoi ffordd ddisylw i ddefnyddwyr y rheilffordd i gysylltu â ni wrth deithio a rhannu pryderon, gwybodaeth neu ofyn am gymorth yr heddlu yn ystod eu teithiau. Roedd gwasanaeth testun 61016 yn darparu hyn, ac yn cynnig ffordd hawdd a chyfleus o ofyn am gymorth wrth ddefnyddio'r rheilffordd.
"61016 oedd y gwasanaeth cyntaf a'r unig wasanaeth o'i fath yn y DU - ac ers 2013, mae BTP wedi derbyn 668,000 o negeseuon testun."
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae'r llu wedi dal nifer o droseddwyr, wedi sicrhau euogfarnau di-ri, wedi gwneud ymyriadau achub bywyd, wedi amharu ar droseddau cyfundrefnol difrifol a hyd yn oed ddatgymalu gweithrediadau llinellau cyffuriau i gyd oherwydd cudd-wybodaeth hanfodol a gyflwynwyd drwy'r gwasanaeth.
Mae negeseuon testun o'r gwasanaeth yn mynd yn syth drwodd i Ganolfan Gyswllt Llu BTP, yr un fath âgalwad ffôn. Mae dosbarthwyr wedyn yn gallu delio â'r neges, gan anfon swyddogion i'r lleoliad os oes angen.
Yn yr amser hwnnw mae senarios Testun 61016 wedi cynnwys:
Ychwanegodd ACC Doyle: "Diolch enfawr i bawb sydd wedi cadw'r rhif testun i'w ffôn, ei ddefnyddio i riportio rhywbeth neu hyd yn oed ledaenu'r gair am y rhif i'w ffrindiau a'u teulu."
"Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, cadwch y rhif yn eich ffôn. Rydyn ni'n gobeithio na fyddwch chi byth ei angen ond mae hynny'n golygu ei fod wrth law os ydych chi - neu gyd-deithiwr - byth ei angen."
Ond nid yw pob neges destun a gawn yn gofyn am weithredu, o'r rhyfedd i'r od yn unig – rydym wedi derbyn negeseon testun fel y rhain:
Mae'r rhif testun bellach yn cael ei ategu gan yr ap Railway Guardian, a lansiwyd y llynedd, yr unig
ap diogelwch a gefnogir gan yr heddlu sydd ar gael yn y DU.
Yn debyg i'r rhif testun, mae pob adroddiad a wneir trwy'r ap yn mynd yn syth i ystafell reoli BTP.
Yna gellir anfon swyddogion ar draws y wlad i'r stop agosaf neu'r stop nesaf os oes angen.
Mae ei opsiwn lleoliad daearyddol hefyd yn caniatáu i'r cyhoedd rannu eu taith ag anwyliaid.
Mae'r ap hefyd yn cynnig cyngor ac yn cadw'r defnyddiwr yn gyfredol â'r newyddion a'r diweddariadau diweddaraf o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Mae'r ddau yn cael eu defnyddio ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys i wasanaethu. Mewn argyfwng, dylai pobl wastad ffonio 999.