Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wedi partneru â The Survivors Trust i fod y llu cyntaf i ddarparu cefnogaeth gyson, genedlaethol i ddioddefwyr trais rhywiol difrifol.
Mae The Survivors Trust yn cynnig Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) i fod yn un pwynt cyswllt i ddioddefwyr treisio ac ymosodiad rhywiol difrifol yng Nghymru a Lloegr.
Gyda darpariaethau presennol yn yr Alban drwy Rape Crisis Scotland, gall BTP bellach gynnig y gwasanaeth hwn ledled Prydain Fawr.
ISVAau yw'r unig bwynt cyswllt drwy gydol y broses – o'r adroddiad cychwynnol, hyd at gefnogi ymchwiliad yr heddlu a hyd at ganlyniad cyfiawnder troseddol, gan sicrhau bod anghenion unigol y dioddefwyr yn cael eu diwallu ym mhob cam.
Rôl ISVA yw cefnogi dioddefwyr a sicrhau eu bod yn deall eu hopsiynau a'u hawliau, gan weithio'n annibynnol ar yr heddlu neu'r llysoedd.Bydd dioddefwyryn cael eu hatgyfeirio at ISVAau gan Swyddogion Cyswllt Troseddau Rhywiol (SOLOs) sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig,ac o fewn 72 awr i'r atgyfeiriadbydd cysylltiadyncael ei wneud â'r unigolyn.
Mae'r bartneriaeth eisoes wedi gweld pedwar atgyfeiriad ar gyfer dioddefwyr y troseddau rhywiol mwyaf difrifol.
Dywedodd Uwch-arolygydd Ditectif BTP, Sam Painter: "Fel llu cenedlaethol, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn darparu cefnogaeth gyson ac ymroddedig i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol difrifol ledled Prydain Fawr.
"Mae mynd i'r afael â thrais rhywiol yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth uchel i BTP, ac mae'r bartneriaeth newydd hon gyda The Survivors Trust yn ailddatgan ein hymrwymiad i gael cyfiawnder i ddioddefwyr y troseddoldeb erchyll hwn."
Dywedodd Fay Maxted, Prif Weithredwr The Survivors Trust: "Rydym wedi ein cyffroi'n fawr i fod yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar y prosiect hwn. Rydym yn gwybod bod angen enfawr i oroeswyr sy'n profi trais rhywiol neu droseddau rhywiol difrifol allu cael mynediad at gefnogaeth neu gyngor cyn gynted â phosibl.
"Mae gwybod bod ffordd hawdd a chyfleus iawn iddyn nhw gael eu hatgyfeirio at ISVA bellach yn rhywbeth rydyn ni'n falch iawn o'i gefnogi."