Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd teithwyr yn gweld mwy o bresenoldeb gan yr heddlu ar drenau ac mewn gorsafoedd yn y nos fel rhan o ymgyrch bwrpasol gyda'r nod o gadw menywod yn ddiogel ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae strategaeth yr heddlu wedi'i thargedu at roi sicrwydd i fenywod sy'n teithio yn y nos, gyda phatrolau amlwg ac anrhagweladwy iawn yn ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu a gorfodi i fynd i'r afael â throseddu neu ymddygiad sy'n gwneud i fenywod deimlo'n anniogel.
Dechreuodd y cynnydd mewn gweithgarwch yn gynharach y mis hwn a bydd yn rhedeg ar draws yr ŵyl ac i'r flwyddyn newydd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'n dod wrth i BTP barhau i fynd i'r afael â throseddau rhywiol ac aflonyddu rhywiol ar y rheilffordd, gan annog teithwyr sy'n profi neu'n gweld yr ymddygiad hwn, megis cyffwrdd, cilwenu, dinoethi anweddus, a thynnu lluniau i fyny sgertiau i'w riportio drwy siarad â'n swyddogion neu decstio 61016.
Meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol BTP Allan Gregory: "Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel wrth deithio ar y rhwydwaith ac rydym yn arbennig o ymroddedig i sicrhau bod hyn yn wir am fenywod yn y nos.
"Nod y cynnydd yn nifer y bobl sy'n bresennol ar drenau ac mewn gorsafoedd yw atal troseddwyr rhywiol a rhoi sicrwydd i unrhyw un sy'n teithio ar wasanaethau yn ystod y nos.
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n teimlo'n anniogel neu sydd am rriportio digwyddiad i gysylltu â'n swyddogion. Rydym yma i chi. Nid oes dim yn rhy fach nac yn rhy ddibwys a byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif."
