Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch “Speak Up, Interrupt” [Siaradwch, Ymyrrwch] Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a'r ap Railway Guardian wedi ennill gwobr ‘Gwneud Mannau’n Ddiogelach’ gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a’r Coleg Plismona yn eu digwyddiad cydnabod ar gyfer swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Hefyd fe wnaeth y llu ennill tair gwobr ranbarthol yn y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 6 Medi 2023:
Mae’r ymgyrch “Speak Up, Interrupt” yn annog teithwyr, yn arbennig dynion, i fod yn wylwyr gweithredol ac i riportio achosion o aflonyddu rhywiol i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae'n cynnwys awgrymiadau sgwrsio y gall teithwyr eu defnyddio'n ddiogel i ymyrryd os ydynt yn dyst i aflonyddu rhywiol.
Lansiwyd yr Ap Railway Guardian gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Gorffennaf 2022, yn dilyn ymgynghoriad helaeth a chreu gweithgor o oddeutu 30 o sefydliadau trydydd sector. Mae ap diogelwch cenedlaethol cyntaf yr heddlu, a ddatblygwyd gan Imabi, yn darparu siop-un-stop ar gyfer teithio mwy diogel ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, gan ddefnyddio technoleg syml, hawdd ei llywio i riportio digwyddiadau wrth symud. Mae bron i 50,000 o lawrlwythiadau wedi'u gwneud ers ei lansio.
Cafodd y digwyddiad cydnabod ei ddatblygu a’i feirniadu ar y cyd gan heddluoedd a chynrychiolwyr o elusennau gan gynnwys SafeLives, Suzy Lamplugh Trust a Karma Nirvana, ochr yn ochr â Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, Nicole Jacobs, a chymdeithasau staff yr heddlu. Derbyniwyd dros 140 o geisiadau a gafodd eu beirniadu’n rhanbarthol i ddechrau gan yr heddlu a phaneli trydydd sector, cyn cael eu rhoi gerbron panel cenedlaethol a benderfynodd ar yr 13 enillydd cyffredinol.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Paul Furnell “Fel rhywun sydd wedi bod yn mynd i’r afael â hyn ers blynyddoedd bellach ac sy’n angerddol i sicrhau ein bod yn cyflawni newid, nid wyf erioed wedi gweithio gyda thîm sydd mor ysgogol ac mor benderfynol o wneud gwahaniaeth. Mae’n wych gweld y llu’n cael ei gydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwn. Fodd bynnag, yn bwysicaf oll, rydym yn amddiffyn menywod a merched rhag camdrinwyr.”
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn croesawu’r ffaith bod y diwydiant rheilffyrdd a sefydliadau eraill yn mabwysiadu’r ymgyrch “Speak Up, Interrupt”. I wneud cais am becyn cymorth i'r ymgyrch, e-bostiwch [email protected].