Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar y trên, efallai y byddwn yn clywed rhywun yn gwneud sylwadau rhywiol yn gyson i deithiwr arall neu'n eu gweld yn eu dilyn drwy'r cerbyd pan ydynt wedi'i gwneud yn glir nad ydynt am siarad.
Efallai y gwelwn rywun yn sefyll yn rhy agos yn fwriadol, yn rhwbio yn erbyn rhywun neu'n ceisio "uwchsgertio" (tynnu lluniau i fyny ddillad rhywun).

Mae'r rhain i gyd yn ffyrdd diogel o fod yn wir i chi'ch hun a helpu person arall.
Mae eich diogelwch yn bwysig: pan ydych chi'n helpu rhywun mae'n bwysig cadw'n ddiogel eich hun. Cofiwch bob amser, nid oes rhaid i chi gamu i mewn – gallwch helpu drwy riportio'r hyn a welwch i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Gwyddom y gall aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus gael effaith wirioneddol ar y rhai sy'n ei brofi a gall effeithio ar ba mor ddiogel a hyderus rydych chi'n teimlo. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr aflonyddu rhywiol yn cael gwasanaeth cyson a chefnogol ta waeth ble maent yn y wlad neu pan fydynt yn riportio'r hyn sydd wedi digwydd iddynt.
Mae'n cymryd dewrder i riportio aflonyddu rhywiol ac mae unrhyw beth sydd wedi gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus yn werth ei riportio. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif.
Os gwelwch chi rywun yn cael ei aflonyddu'n rhywiol, gallwch chi helpu drwy gofio:
Siaradwch. Os gwelwch chi unrhyw beth sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, siaradwch ag aelod o staff neu'r heddlu. Cysylltwch â Heddlu Trafnidiaeth Prydain drwy anfon neges destun at 61016. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Torri ar draws. Nid oes angen i chi wynebu unrhyw un na disgwyl i sefyllfa waethygu. Cyn gynted ag y gwelwch chi rywbeth sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, gallwch chi helpu drwy wneud rhywbeth bach a chynnil i dawelu'r sefyllfa.
Mewn sawl ffordd, eich presenoldeb yw eich uwch-bŵer mwyaf. Mewn rhai achosion, os yw'n ddiogel gwneud hynny, gallai sefyll rhwng person sy'n achosi niwed a dioddefwr fod yn ddigon i atal yr hyn sy'n digwydd
Rhowch rywbeth yn y rheseli uwchben
Codwch i edrych ar fap yr orsaf
Cerddwch i lawr y cerbyd i ymestyn eich coesau



Dewch o hyd i'ch ffrindiau – Os ydych chi wedi gweld y broblem, bydd eraill wedi gweld hefyd. Yn aml, mewn grwpiau dydyn ni ddim yn gweithredu oherwydd nad yw eraill yn gwneud dim. Byddwch y cyntaf i weithredu. Gofynnwch am help a pheidiwch â synnu pan fydd eraill yn ymuno â chi.
Mae eich diogelwch yn bwysig. Peidiwch â gwneud unrhyw beth sy'n eich rhoi mewn perygl. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallwch helpu trwy roi gwybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Beth os ydw i'n meddwl bod rhywun mewn perygl?
Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os gwelwch chi rywun yn cael ei dreisio neu ei ymosod yn rhywiol o ddifrif, mae'n argyfwng a dylech ffonio 999 ar unwaith.
Beth os caf fy aflonyddu'n rhywiol?
Rydym yn gwybod y gall aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus gael effaith wirioneddol ar y rhai sy'n ei brofi a gall effeithio ar ba mor ddiogel a hyderus rydych chi'n teimlo. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr aflonyddu rhywiol yn derbyn gwasanaeth cyson a chefnogol waeth ble maen nhw yn y wlad neu pryd maen nhw'n rhoi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw.
Mae'n cymryd dewrder i roi gwybod am aflonyddu rhywiol ac mae unrhyw beth sydd wedi gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus yn werth ei roi gwybod amdano. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif.
Sut mae rhoi gwybod amdano?
Gallwch roi gwybod amdano drwy anfon neges destun at 61016. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Yn gwylio ar ffôn symudol? Cliciwch yma i gadw neges destun at 61016 ar eich ffôn.