Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A welsoch chi'r digwyddiad hwn?
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar drên Central Line yn apelio heddiw at dystion i ddod ymlaen.
Am oddeutu 3.30pm dar dydd Llun 2 Rhagfyr, roedd y ddioddefwraig yn eistedd ar drên Central Line rhwng Shepherds Bush a Liverpool Street pan eisteddodd menyw arall wrth ei hymyl.
Dechreuodd y ddioddefwraig a'r fenyw ddadlau cyn i'r fenyw ddechrau dyrnu'r ddioddefwraig yn ei phen dro ar ôl tro, gan grafu ei hwyneb a thynnu ei gwallt.
Fe wnaeth tri aelod o'r cyhoedd atal y fenyw a'i symud i ffwrdd, fodd bynnag dychwelodd hi at y ddioddefwraig a dechrau stampio ar ei thraed.
Yna fe wnaeth hi arllwys potel o sudd dros y ddioddefwraig cyn cymryd potel wydr wag a'i malu dros ben y dioddefwr, gan achosi iddi golli ymwybyddiaeth.
A oeddech chi'n un o'r bobl a ataliodd y fenyw, neu a welsoch chi'r digwyddiad hwn ac a oes gennych chi wybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad?
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 41 o 26 Rhagfyr.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.