Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ddechrau mis Ebrill 2023, defnyddiwyd diffibriliwr oedd newydd ei osod i achub bywyd dyn yng Ngorsaf Rheilffordd Caerdydd Canolog.
Gwelwyd dyn anymwybodol yn yr orsaf a defnyddiodd dau o Swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y diffibriliwr ar ôl defnyddio CPR.Cymerodd parafeddygon y gweithdrefnau drosodd pan gyrhaeddon nhw ac aethpwyd â'r dyn i'r ysbyty i wella.
Dywedodd Uwch-arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Andrew Morgan:
“Mae diffibrilwyr yn adnodd cymunedol anhygoel ac yn achub bywydau o wythnos i wythnos. Rwy’n cymeradwyo ac yn diolch i’n dau swyddog a oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn ac fe wnaeth eu meddwl cyflym a’u hyfforddiant wir wahaniaeth yn y pen draw. Rwyf hefyd yn ategu'r pryderon a godwyd gan Trafnidiaeth Cymru ynghylch fandaliaeth ddifeddwl y cynhyrchion hyn sy'n achub bywydau.
“Os ydych yn amau bod rhywun yn cael trawiad ar y galon, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am y gwasanaeth Ambiwlans, dechreuwch CPR a gofynnwch i rywun ddod o hyd i ddiffibriliwr. Bydd y gweithredwr 999 yn rhoi cyngor i chi ar sut i gyflwyno CPR os nad ydych chi'n gwybod sut i wneud hynny, a ble i ddod o hyd i’r diffibriliwr agosaf os na allwch chi ddod o hyd i un. Wedyn bydd y gweithredwr hefyd yn rhoi cyngor i chi ar sut i'w ddefnyddio. Bydd y gweithredoedd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr ac fel y tro hwn, gallan nhw achub bywydau.”
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg:
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gosod dros 200 o ddiffibrilwyr ar draws ein rhwydwaith rheilffyrdd ac mae hon yn enghraifft glir o ba mor bwysig ydyn nhw a sut y gallan nhw achub bywydau.
“Yn anffodus, mewn llawer o’n gorsafoedd, mae ein diffibrilwyr wedi cael eu fandaleiddio ac rwy’n gobeithio bod y stori hon yn amlygu’r rôl hanfodol y gallan nhw ei chwarae ac y bydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn difrodi darn o offer sy’n achub bywydau.
“Eleni, rydyn ni wedi gweithio gyda’n partneriaid yn Achub Bywyd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr yng ngorsafoedd Caerdydd a Wrecsam a byddwn ni'n parhau i amlygu eu pwysigrwydd wrth symud ymlaen.”
Mae diffibrilwyr yn ddyfeisiadau cludadwy y gellir eu defnyddio i roi sioc drydanol i'r galon. Gall eu defnydd cyflym olygu'r gwahaniaeth rhwng achub bywyd rhywun a pheidio. Os defnyddir diffibriliwr gyda 3-5 munud o ataliad y galon, gall y siawns o oroesi gynyddu hyd at 70%.
