Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad o ddinoethiad anweddus mewn gorsaf ym Mhowys yn apelio i dystion ddod ymlaen.
Am oddeutu 9pm ar nos Iau 12 Mehefin roedd menyw 26 oed yn teithio ar drên o Gasnewydd i'r Trallwng pan wnaeth hi sylwi ar ddyn gerllaw yn ymddwyn yn rhyfedd.
Gadawodd hi'r trên yn Y Trallwng ac yna dinoethodd y dyn ei hun iddi wrth iddi groesi pont droed i'r maes parcio.
Dywedodd y fenyw wrth ddau aelod o'r cyhoedd beth oedd wedi digwydd ac fe wnaethon nhw ei gyrru adref cyn iddi hysbysu'r heddlu wedyn.
Mae swyddogion yn apelio ar frys ar y ddau aelod o'r cyhoedd a gynorthwyodd y ddioddefwraig, ac unrhyw un arall a allai fod â gwybodaeth, i gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy decstio 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 764 o 12 Mehefin.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.