Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd wrth deithio ar drên neu mewn gorsaf, yna rydym yma i chi.
Ffoniwch ni ar 0800 40 50 40 neu decstio 61016 i riportio unrhyw drosedd sydd eisoes wedi digwydd, i ofyn am gyngor ynghylch atal troseddau neu i'n hysbysu o faterion yn eich cymdogaeth.
Mae defnyddio'r rhif Rhadffôn uchod yn cadw 999ar gael ar gyfer argyfyngau, ac yn ein helpu i gyrraedd y bobl sydd ein hangen ni fwyaf mor gyflym â phosibl.
Argyfwng yw pan yw trosedd yn digwydd, mae rhywun yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd gerllaw, mae rhywun wedi'i anafu, ei fygwth neu mewn perygl. Mewn argyfwng, deialwch 999.
Os oes gennych gwestiwn am sut yr ydym yn plismona neu os oes arnoch angen rhywfaint o gyngor, tecstiwch ni ar 80110.
*Ni allwch riportio trosedd trwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, ffoniwch ni.
Nid yw negeseuon testun yn cyrraedd yn gyflym, cofiwch hyn. Byddwch yn gwybod bod eich neges destun wedi'i derbyn pan fyddwch chi'n derbyn ateb gennym.
Sylwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio.
Hefyd, cofrestrwch eich ffôn â'rgwasanaeth testun SMS Brys. Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio fel galwad 999 ar gyfer pobl fyddar, trwm eu clyw ac â nam ar eu lleferydd. Gallwch anfon neges destun SMS i'r gwasanaeth hwn ac yna byddant yn ei throsglwyddo i'r gwasanaeth brys cywir.