Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae Cadetiaid Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn grŵp ar gyfer pobl ifanc 13-17 oed sydd am gael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol i ddysgu am blismona tra'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon sydd o fudd i'n cymdogaethau.
Mae croeso i bawb, ac os ydych chi'n 18 neu'n hŷn, gallwch chi gymryd rôl arwain i fentora cadetiaid iau.
Pam ymuno?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaeth cymunedol, yn chwilfrydig am orfodi'r gyfraith, neu eisiau dysgu rhagor am y system gyfreithiol, mae'r rhaglen hon ar eich cyfer chi. Gallwch chi hefyd ennill gwobrau fel Gwobr Dug Caeredin wrth gymryd rhan mewn amrywiol brosiectau gweithredu cymdeithasol.
Pwy all ymuno?
Gall unrhyw un rhwng 13 a 17 oed, a’r rhai 18 oed a hŷn ddod yn arweinwyr cadetiaid. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod y tymor, gyda thair awr ychwanegol o wirfoddoli bob mis er mwyn dal i ymgysylltu.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys garddio cymunedol, darparu mewnbwn ar faterion ieuenctid, mentrau atal troseddu, gorymdeithiau, a chynorthwyo gyda digwyddiadau i blant ag anghenion arbennig. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn helpu gydag arolygon troseddu neu batrolio'r rhwydwaith rheilffyrdd.
Ac ie, byddwch chi'n derbyn iwnifform! Er nad yw ymuno â’r Cadetiaid yn gwarantu swydd yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, mae’n cynnig cipolwg gwerthfawr ar blismona ac yn gwella'ch sgiliau cyflogadwyedd.
Ddim yn dilyn gyrfa mewn gorfodi'r gyfraith? Mae hynny'n berffaith iawn! Mae llawer o gadetiaid yn ymuno i gyfrannu at eu cymunedau neu ennill cymwysterau. Os oes gennych hanes gyda'r gyfraith yn y gorffennol, cyn belled nad yw'n ddifrifol, rydym yma i gefnogi'r rhai sy'n edrych i symud ymlaen.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Anfonwch e-bost atom yn [email protected]i gael gwybod am eich uned cadetiaid agosaf ac i ddechrau arni.
Os ydych chi am helpu i wella'ch cymuned leol, bod gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am sut mae'r heddlu'n gweithio, neu'r gyfraith, mae'r cynllun hwn ar eich cyfer chi.
Rydym hefyd yn cynnig gwobrau a chymwysterau megis Gwobr Dug Caeredin a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed ymuno.
Mae'r rhai 18 oed ac yn hŷn yn gymwys i ddod yn arweinydd cadetiaid. Mae bod yn arweinydd cadetiaid yn gyfle i ddatblygu'ch sgiliau arwain, helpu pobl ifanc ac ysbrydoli'r genhedlaeth blismona nesaf.
Rydym yn cwrdd bob wythnos yn ystod y tymor. Rydym yn disgwyl y bydd pob cadét ac arweinydd cadetiaid yn gwirfoddoli am o leiaf tair awr y mis, ar gyfartaledd, y tu allan i gyfarfodydd wythnosol.
Mae'r Cadetiaid yn cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau gwirfoddoli amrywiol, o weithgareddau cymunedol lleol i achlysuron gyda chynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol hyd yn oed. Mae rhai gweithgareddau y byddwch yn disgwyl cymryd rhan ynddynt yn cynnwys:
Byddwch, rydym yn grŵp ieuenctid mewn iwnifform ac mae'r iwnifform yn rhan o'n hunaniaeth fel rhan o'r teulu plismona estynedig.
Nid yw ymuno â'r Cadetiaid yn gynllun mynediad uniongyrchol i wasanaeth yr heddlu. Fodd bynnag, bydd yn rhoi cipolwg i chi ar blismona, yn adeiladu eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch gyrfa.
Nac ydy. Mae pobl ifanc yn ymuno â ni am lawer o wahanol resymau, llawer er mwyn gallu gweithio yn eu cymunedau neu ennill gwobrau a chymwysterau.
Gallwch, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drafferth yr ydych wedi bod ynddo. Rydym yn ceisio darparu rhaglen hollgynhwysol a byddwn yn cefnogi pobl ifanc sydd am wneud newid.
I wneud cais i fod yn gadét neu'n arweinydd Cadetiaid e-bostiwch [email protected].