Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae eich cartref mor ddiogel â’i bwynt mynediad gwanaf. Dyna pam ei bod mor bwysig bod gennych ddrysau a ffenestri sydd mor gadarn â phosibl. Yma cewch lawer o gyngor defnyddiol ar sut i gadw lladron posibl allan.
Ni fydd cau’r drws yn unig yn atal byrgleriaethau. Clowch y drws ddwywaith bob tro y byddwch yn gadael y tŷ. Mae drysau aml-glo ac uPVC yn defnyddio systemau bachyn a chlicied i wneud y drws yn gadarn, ond bydd y rhain ond yn gweithio os byddwch yn codi’r ddolen ac yna’n cofio troi a thynnu’r allwedd allan. Cofiwch - codi, cloi a thynnu allan.
Mae rheoli mynediad i’ch cartref yn dechrau gyda diogelu drysau a ffenestri. Er mwyn gweld pa mor ddiogel yw eich cartref ac i gael rhagor o gyngor a’n syniadau gorau, ewch i’n tudalennau sy’n ymwneud â Rheoli mynediad gyda drysau y gallwch ymddiried ynddynt ac Atal mynediad drwy eich ffenestri.