Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall fod yn anodd atal lleidr penderfynol. Wrth gwrs mae diogelwch o’r radd flaenaf ar ffurf drysau, ffenestri a chloeon o ansawdd da yn nodweddion gwych ond gallwch wneud hyn yn oed rhagor i atal lladron.
Gwnewch eich eitemau yn llai atyniadol i ladron drwy ddefnyddio offer marcio eiddo a gymeradwyir gan yr heddlu y gellir ond ei weld o dan olau uwchfioled (UV). Gellir gwneud hyn gyda marciwr arbennig, inc neu baent. Marciwch eich eiddo drwy ysgythru eich cod post, rhif eich tŷ neu fflat neu dair llythyren gyntaf eich cyfeiriad arno. Mae’r holl bethau hyn yn helpu’r heddlu i adnabod eitemau sydd wedi’u dwyn, gan ei gwneud hi’n anoddach i ladron eu gwerthu. Felly gadewch eich marc.
Nid dim ond eitemau trydanol a beiciau y gellir eu marcio, gallwch hefyd farcio eitemau gwerthfawr megis hen greiriau. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor arbenigol.
Cofrestrwch eich eiddo am ddim ar Immobilise – mae’n helpu’r heddlu i ganfod perchnogion eiddo y deuir o hyd iddo. Gallwch gofrestru unrhyw beth sydd â rhif cyfresol gydag Immobilise
Gallwch gofrestru eich eitemau am ddim gan ddefnyddio un o’r cronfeydd data eiddo achrededig.
Tynnwch luniau a chadwch ddogfennau a derbynebau’n ymwneud â’ch eiddo fell y gallwch brofi mai chi sy’n berchen arnynt.
Os oes gennych feddwl mawr o’ch beic, yna cofrestrwch ef gyda Bikeregister.com. Mae’r stamp amlwg yn helpu i atal lladron
Os ydych chi’n ei werthfawrogi, yna cyhoeddwch ei fod wedi’i ddiogelu. Mae sticeri ffenestr ac arwyddion yn effeithiol iawn phrofwyd eu bod yn gweithio i atal lladron.
Drwy ddod yn rhan o’ch cynllun Gwarchod Cymdogaeth lleol, byddwch yn ymuno â chymdogion o’r un bryd â chi sydd, drwy fod yn wyliadwrus, yn helpu i gadw troseddwyr posibl o’r ardal.