Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Yn yr adran hon:
| 1. Yr hyn y gallwch chi gwyno amdano |
| 2. Sut i gwyno am yr heddlu |
| 3. Beth sy'n digwydd i'ch cwyn |
| 4. Beth i'w wneud os ydych chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn |
Gallwch chi wneud cais am hawl i gael adolygiad os ydych chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn neu'r ffordd y cafodd ei trin.
Cynhelir adolygiadau o gwynion yng Nghymru a Lloegr naill ai gan Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTPA), neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn achosion difrifol.
Cynhelir adolygiadau o gwynion sy’n tarddu o’r Alban gan Gomisiynydd Ymchwilio ac Adolygu’r Heddlu (PIRC).Byddwch chi’n cael gwybod am eich hawl i adolygiad a pha gorff mae'n rhaid ichi wneud cais iddo yn eich llythyr canlyniadau. Byddwn yn anfon y llythyr hwn atoch ar ôl inni gwblhau'r ymchwiliad i'ch cwyn.
Mae angen ichi wneud cais am adolygiad o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y llythyr canlyniadau neu fydd eich cais ddim yn cael ei dderbyn, oni bai bod amgylchiadau eithriadol ynglŷn â’r oedi.
Gall fod achlysuron pan nad oes gennych chi hawl i adolygiad, er enghraifft, os na wnaeth y digwyddiad rydych chi’n cwyno amdano effeithio'n uniongyrchol arnoch chi.
Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau pob cwyn ac yn cael ei esbonio yn eich llythyr canlyniadau.
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r BTPA, yr IOPC, PIRC neu sefydliad megis eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gallwch hefyd siarad â chynghorydd cyfreithiol.