Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn a geisiodd hawlio bod y trac rheilffordd yr oeddent yn ceisio'i ddwyn wedi'i adael ac ar dir di-berchnogaeth wedi cael eu dedfrydu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).
Fe wnaeth David Hanford, 58, ac o Brownhills, Gorseinon, Robert Lewis, 64, ac o Y Fron, Cefneithin, a Ryan John, 43, ac o Lys Caernedi, Caerfyrddin, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth 6 Ionawr, lle plediodd Hanford yn euog i ddau gyhuddiad o geisio lladrata, , a phlediodd Lewis a John yn euog i un cyhuddiad.
Ymddangosodd pob un ohonynt yn yr un llys ddydd Mercher 11 Chwefror, lle cafodd Hanford a Lewis eu dedfrydu inaw mis o garchar,wedi'i ohirio am ddwy flynedd,eu gorchymyn i ymgymryd â gweithgaredd adsefydlu a thalu £500 mewn iawndal. Cafodd John ei ddedfrydu i bedwar mis a phythefnos o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd – rhaid iddo hefyd ymgymryd â gweithgaredd adsefydlu, gwneud gwaith di-dâl, a thalu £500 mewn iawndal.
Clywodd y llys, tua 8.30am ar 3 Hydref 2022, fod aelod o'r cyhoedd wedi sylwi ar fan a grŵp o ddynion mewn-festiau amlygrwydd uchel ar y lein yn ardal Bryn Golwg yng Nghlun, Castell-nedd.
Feddyliodd ef ddim amdano ar y dechrau gan nad oedd yn anarferol gweld timau o beirianwyr ar y trac ac roedd y llinell wedi’i ‘roi o’r neilltu’ – term a ddefnyddir yn aml mewn peirianneg rheilffyrdd i gyfeirio at drac nad yw’n cael ei ddefnyddio ar y pryd ond sydd angen ei gynnal a’i gadw o hyd a gellid ei ddefnyddio eto ar fyr rybudd.
Pan oedd y dynion wedi gadael ar ddiwedd y dydd, penderfynodd edrych yn agosach ar yr hyn yr oeddent wedi bod yn ei wneud a sylwi bod toriadau wedi bod i'r trac. Yn bryderus, rhoddodd wybod i Network Rail.
Y bore canlynol roedd yr un dynion yn ôl eto, yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y trac a'r fan. Galwyd BTP, a mynychodd swyddogion ychydig amser yn ddiweddarach.
Fe wnaethon nhw orchymyn i'r dynion roi'r gorau i'r hyn yr oeddent yn ei wneud a darparu eu cardiau adnabod penodol i'r diwydiant yn profi eu bod yn cael gweithio ar y rheilffordd, rhywbeth nad oeddent i gyd yn gallu ei wneud.
Honnodd Hanford ei fod ef a'r dynion eraill yn rhedeg cwmni. Dywedodd nad oedd y tir yn eiddo i neb a bod y grŵp yn bwriadu cael gwared ar y trac a oedd wedi'i 'adael' a sgrapio'r metel fel y gellid defnyddio'r tir ar gyfer pethau eraill.
Cyflwynodd Hanford ddogfen ddilys y Gofrestrfa Tir i geisio cefnogi ei honiad.
Fodd bynnag, ar ôl ffonio’r Gofrestrfa Tir a sylwi ar doriadau i’r trac, atafaelodd swyddogion offer y dynion, cymerodd eu holl fanylion a dywedon nhw wrthynt y byddent i gyd yn cael eu gwahodd i gyfweliad heddlu ar amheuaeth o geisio lladrata.
Lansiwyd ymchwiliad hirfaith, yn cynnwys nifer o syrfewyr arbenigol Network Rail a rheolwyr trac, y Gofrestrfa Tir a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Sefydlodd swyddogion fod Hanford a Lewis wedi bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau tebyg mewn blynyddoedd blaenorol, lle byddent yn chwilio am yr hyn a ystyrient yn linellau rheilffordd 'wedi'u gadael' ac yn gwneud ceisiadau i'r Gofrestrfa Tir am chwiliadau map mynegai. Cafodd bron yr holl rwydwaith rheilffyrdd ei gaffael yn y 19eg ganrif gan ragflaenwyr Network Rail mewn teitl ac mae llawer ohono yn parhau i fod heb ei gofrestru.
Ceisiodd y grŵp ddefnyddio technegolaeth disgrifiad y tir fel 'ystad heb ei chofrestru' er eu mantais gan olygu nad oedd neb yn berchen arno ac felly roedd yn eiddo iddynt hwy i wneud beth bynnag yr oeddent yn dymuno ag ef.
Wrth i swyddogion baratoi ar gyfer cyfweliadau gwirfoddol gyda'r grŵp ym mis Medi 2023, dychwelon nhw i'r un ardal o'r trac. Fe'u gwelwyd gan aelod arall o'r cyhoedd a oedd yn ymwybodol o'r ymgais i ddwyn o'r flwyddyn flaenorol ac a ffoniodd yr heddlu.
Cyrhaeddodd swyddogion BTP ychydig amser yn ddiweddarach ac honnodd y grŵp eto fod y llinell wedi'i gadael a heb ei ddefnyddio, gan gyfaddef eu bod wedi torri'r trac y flwyddyn flaenorol ac wedi dychwelyd i'w waredu. Cawson nhw eu harestioetoar amheuaeth o ddwyn a'u cymryd i'r ddalfa.
Amcangyfrifwyd bod cyfanswm cost y difrod a achoswyd i'r trac bron yn £46,000.
Cawson nhw i gyd eu cyhuddo ym mis Ebrill 2024.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu BTP Kay Calderwood a arweiniodd yr ymchwiliad: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir, cymhleth ac, a dweud y gwir, eithaf rhyfedd. Fel rhan o'r tric roedd y grŵp wedi creu cwmni ffug, ond nid oedd wedi'i gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau ac nid oedd ganddo gynlluniau nac yswiriant iechyd a diogelwch. Fe geision nhw wisgo’n broffesiynol er mwyn iddyn nhw allu gwneud y gwaith heb rwystr ond tarfwyd arnyn nhw y ddau dro gan aelodau pryderus o’r cyhoedd.
“Roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn golygu bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyflwyno cofnodion a gweithredoedd y gofrestrfa tir i Hanford, Lewis a John yn dyddio’n ôl i’r 1850au, ond eto fe wnaethon nhw fynnu dro ar ôl tro fod y dystysgrif a oedd ganddyn nhw’n golygu bod y tir wedi’i adael yn eu barn nhw a bod hynny’n golygu y gallen nhw wneud beth bynnag roedden nhw'n dymuno.
“Yn fwyaf pryderus, nid oedd gan y grŵp unrhyw syniad am y llinell yr oeddent yn ei difrodi. Doedden nhw ddim yn gwybod pryd roedd y trên prawf olaf wedi rhedeg ar y trac, felly bydden nhw wedi bod yn gwbl anymwybodol o'r posibilrwydd y byddai trên yn cael ei ddireilio pe bydden nhw wedi bod yn llwyddiannus yn eu hymdrechion.
“Dylai hyn fod yn rhybudd sylweddol i unrhyw un arall sy’n meddwl y gallant dresmasu a cheisio dwyn trac rheilffordd.”
DywedoddPrif Arolygydd BTP, Joseph Gorman, arweinydd ar aflonyddwch rheilffyrdd: "Mae'r euogfarn hon yn anfon neges glir na fydd troseddau peryglus, costus ac aflonyddgar fel dwyn traciau yn cael eu goddef.
"Gall ceisio dwyn metel o'r rhwydwaith rheilffyrdd neu o ddepos beri risg ddifrifol o niwed i'r troseddwr, ac mae'r costau a achosir gan weithredwr y rheilffordd yn cael eu trosglwyddo i'r cymudwr cyffredin."
Dywedodd Cerys Canning,Rheolwr Rhaglen yn Network Rail: “Roedd hon yn weithred hynod beryglus a roddodd fywydau mewn perygl ac a achosodd ddifrod sylweddol i’r rheilffordd. Mae hyd yn oed llinellau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn parhau i fod yn rhan o'r rheilffordd weithredol a gellir eu dwyn yn ôl i wasanaeth ar fyr rybudd. Mae ymyrryd â'r trac o dan unrhyw amgylchiadau yn anghyfreithlon a gall gael canlyniadau trychinebus.
“Fe wnaeth y difrod a achoswyd yn yr achos hwn gostio bron i £46,000 – arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar gynnal a gwella’r rheilffordd i deithwyr a chwsmeriaid cludo nwyddau.
“Mae unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tresmasu neu’n ceisio cael gwared ar asedau rheilffordd yn cyflawni trosedd difrifol a bydd yn cael ei drin yn unol â hynny. Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r cyhoedd a gododd bryderon, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i amddiffyn y rheilffordd a chadw pobl yn ddiogel.”


