Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:04 15/05/2020
Mae dyn a ymosododd yn rhywiol ar fyfyrwraig coleg ar fwrdd trên wedi cael ei ddedfrydu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Faisal Mohamed, 32, ac o Stryd Redlaver yn Grangetown, yn euog o ymosodiad rhywiol trwy gyffwrdd yn Llys Ynadon Caerdydd ar 13 Mai.
Cafodd ddedfryd o bedwar mis, wedi'i gohirio am ddwy flynedd. Rhaid i Mohamed hefyd gymryd rhan mewn rhaglen adsefydlu, cwblhau 100 awr o waith di-dâl, talu cyfanswm o £213 mewn iawndal ac mae'n ofynnol iddo gofrestru gyda'r heddlu yn unol â'r Ddeddf Troseddau Rhywiol am saith mlynedd.
Ar 2 Rhagfyr tua 7.20am, aeth y ddioddefwraig ar fwrdd gwasanaeth o orsaf reilffordd Pye Corner ar ei ffordd i'r coleg. Clywodd y llys sut y ceisiodd Mohamed, a oedd yn eistedd gyferbyn â'r ddioddefwraig, siarad â hi a dechrau gwneud sylwadau amhriodol tuag ati. Yna aeth ymlaen i gyffwrdd â hi'n amhriodol, gan fwytho'i gwallt a'i dwylo mewn modd rhywiol.
Roedd y ddioddefwraig yn amlwg yn anghyfforddus ac ymyrrodd aelod o'r cyhoedd, ond parhaodd Mohamed a cheisio cydio yn y ddioddefwraig.
Yn dilyn apêl ar y cyfryngau â delwedd teledu cylch cyfyng, nododd Mohamed ei hun i swyddogion.
Dywedodd Cwnstabl BTP, Liam Perry: “Mae mynd i’r afael â phob math o ymddygiad rhywiol digroeso ar y rheilffordd yn flaenoriaeth i ni - rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifrif a byddwn yn ymchwilio’n drylwyr i bob trosedd.
“Diolch byth ein bod yn plismona amgylchedd sydd â digonedd o deledu cylch cyfyng a chafodd y drosedd hon ei chipio ar gamera. Rwyf yn gobeithio bod hyn yn ein hatgoffa'n gryf na fydd troseddwyr rhywiol yn cael eu goddef ar y rheilffordd
“Hoffwn ganmol dewrder y ddioddefwraig a chefnogaeth ei theulu wrth riportio’r digwyddiad i’r heddlu, a gobeithio y bydd yr euogfarn hon yn annog dioddefwyr eraill troseddau rhywiol i ddod ymlaen a riportio digwyddiadau i ni.
Rydym yn annog unrhyw un sy'n profi unrhyw broblemau ar y rheilffordd i'w riportio i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth testun cynnil 61016. "