Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:34 01/07/2020
Mae dyn a gafodd ei ddal yn cario tair cyllell yng ngorsaf Canol Caerdydd wedi’i ddedfrydu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP).
Cafwyd Feras Eletrebi, 22, ac o ffordd Salisbury, Reading, yn euog o dri chyfrif o feddu ar declyn â llafn mewn man cyhoeddus a bod â chanabis yn ei feddiant yn Llys Ynadon Caerdydd ar 8 Gorffennaf
Cafodd ddedfryd gyfan o 10 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 12 mis. Gorchmynnwyd Eletrebi hefyd i wneud 80 awr o waith di-dâl, talu £207 mewn iawndal, yn ogystal â chael gorchymyn fforffedu a dinistrio am y cyffuriau a'r arfau.
Am oddeutu 7.30pm ar ddydd Mawrth 3 Rhagfyr, fe wnaeth swyddog BTP stopio a herio Eletrebi tra ar batrôl yng ngorsaf Canol Caerdydd ar ôl sylwi ar arogl canabis o sigarét yr oedd yn ei ysmygu.
Ar ôl cyfaddef mai canabis ydoedd, llwyddodd Eletrebi i ddianc a rhedeg tuag at y maes parcio prysur yng nghefn yr orsaf. Gorchmynnodd y swyddog iddo stopio, ond parhaodd i redeg i ffwrdd gan weiddi, “Mae gen i gyllell.”
Wrth sylwi ar arf yn ei law a nodi'r risg ddifrifol yr oedd Eletrebi yn ei beri i aelodau'r cyhoedd yn y maes parcio, tynnodd y swyddog ei daser.
Taflodd Eletrebi eitem i'r llawr, y canfuwyd yn ddiweddarach ei fod yn holltwr cig, cyn neidio dros wal y maes parcio a rhedeg i draffig a oedd yn dod tuag ato ar ffordd Penarth.
Daliodd y swyddog Eletrebi, a oedd yn dal i gario cyllell, a'i gadw, ei ddiarfogi a'i arestio yn y fan a'r lle.
Canfuwyd cyllell glo â’r llafn yn ei lle ar y llawr lle roedd Eletrebi wedi bod ac yn dilyn chwiliad canfuwyd eitemau pellach yn ei feddiant, gan gynnwys cyllell Stanley.
Dywedodd yr Arolygydd BTP, Mike Jones: “Nid oes unrhyw esgus o gwbl i fod yn cario arfau ymosodol ar y rheilffordd, ac rydym yn falch o weld bod Eletrebi wedi cael ei gosbi am ei weithredoedd.
“Diolch i weithredoedd anhygoel o ddewr ein swyddog, mae tair arf wedi’u tynnu o’r rhwydwaith.
“Diolch byth, mae digwyddiadau fel hyn yn brin ar y rheilffordd, ond gallwch chi ein helpu ni trwy gadw llygad am unrhyw beth neu unrhyw un amheus a’n tecstio’n gynnil ar 61016.”