Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:17 18/01/2023
Trwy gydol mis Rhagfyr 2022, cynhaliodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (HTP) a Thrafnidiaeth Cymru (TrC) ymgyrch ar y cyd, o'r enw Ymgyrch Genesis, i gadw'r rheiny ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn ddiogel yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl, a arweiniodd at ostyngiad o bron i 18% yn y troseddau cyffredinol ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
Roedd Ymgyrch Genesis yn cynnwys swyddogion heddlu ychwanegol, mewn iwnifform a dillad plaen, a staff rheilffordd TfW yn gweithio ar draws y rhwydwaith ledled Cymru i helpu a chynorthwyo'r cyhoedd, gyda phwyslais ar ddyddiau Gwener a Sadwrn. Roedd hefyd yn atal troseddu'n rhagweithiol, yn ogystal â darparu sicrwydd a chyngor diogelwch personol.
Gyda photensial o bum penwythnos prysur drwy gydol mis Rhagfyr, yn hytrach na phedwar penwythnos am y blynyddoedd diwethaf, bu HTP a TrC yn gweithio'n agos iawn yn y cyfnod cyn mis Rhagfyr i sicrhau bod y nifer cywir o swyddogion a staff wedi'u lleoli ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Roedd Rhagfyr 2022 hefyd yn gyfnod cyntaf yr ŵyl ers dwy flynedd heb unrhyw gyfyngiadau yn ymwneud â Covid.
Mae rhai o'r prif ganlyniadau gan Ymgyrch Genesis yn cynnwys Gostyngiad cyffredinol o 17.8% mewn troseddau (o'i gymharu â Rhagfyr 2021), gan gynnwys:
Wrth siarad am Ymgyrch Genesis, dywedodd Uwch-arolygydd HTP, Andy Morgan: "Diogelwch a lles teithwyr a staff y rheilffyrdd yw ein prif flaenoriaeth bob amser, a dyna pam wnaethon ni ymuno â Thrafnidiaeth Cymru wrth gyflwyno Ymgyrch Genesis.Dyma oedd mis prysuraf y flwyddyn, a chyfnod cyntaf yr ŵyl, ers sawl blwyddyn, heb unrhyw gyfyngiadau teithio oherwydd y pandemig.
"Rwy'n hynod falch o weld a gostyngiad cyffredinol mewn troseddu o bron i 18% ac rwyf hefyd yn falch o weld gostyngiad mawr mewn troseddau rhywiol a threisgar. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gymryd rhai o'r gwersi cadarnhaol i mewn i 2023.Hoffwn ddiolch i Drafnidiaeth Cymru am eu help a chymorth a'u gwaith caled yn ystod Ymgyrch Genesis a hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r cyhoedd am eu cymorth a'u gwyliadwriaeth dros y cyfnod hwn."
Ychwanegodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn am waith Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wrth helpu i gadw rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn ddiogel fel rhan o Ymgyrch Genesis, ac i’r mwyafrif helaeth o deithwyr rheilffordd am eu cydweithrediad dros yr ŵyl.
"Yn gyffredinol gwrthodwyd teithio i 614 o bobl ar ein gwasanaethau oherwydd ymddygiad afreolus yn ystod mis Rhagfyr. Bu gostyngiad o 62.5% mewn ymosodiadau ar staff Trafnidiaeth Cymru o gymharu â mis Rhagfyr 2021, sy’n dangos y cynnydd yr ydym wedi’i wneud wrth gydweithio i sicrhau diogelwch ein cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd. Roeddem hefyd yn gallu diogelu teithwyr agored i niwed drwy weithio mewn partneriaeth â’r heddlu a’r gwasanaethau ambiwlans mewn “mannau diogel” dynodedig.
"Mae ein cydweithwyr rheng flaen a diogelwch yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â HTP i gyflawni gweithrediadau llwyddiannus. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hyn yn 2023 a byddwn yn parhau i gydweithio yn 2023 er mwyn sicrhau bod teithwyr yn parhau i deithio’n ddiogel."
Atgoffir aelodau'r cyhoedd i ddefnyddio'r rhif testun 61016 os ydynt am riportio trosedd ar y rhwydwaith rheilffyrdd neu ffonio 999 mewn argyfwng. Mae BTP hefyd wedi lansio'r ap newydd Railway Guardian. Mae'r ap hwn sydd am ddim yn ap diogelwch popeth-mewn-un sy'n eich galluogi i riportio troseddau neu bryderon ar y rhwydwaith rheilffyrdd, rhannu'ch teithiau gyda chysylltiadau dibynadwy, a chael mynediad at newyddion, canllawiau, neu gymorth.