Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs yn apelio am dystion ar ôl i ddynes cael ei ymosod yn ddifrifol ar drên oedd yn teithio o Glasgow Central i Ayr.
Ar ddydd Iau 13 Mai, ar fwrdd y gwasanaeth 8.30pm o Glasgow Central i Ayr, adroddir i ddynes gael ei churo gan grŵp o bedair benyw, gan achosi anafiadau i'w hwyneb a'i phen. Tynnwyd y dioddefwr i'r llawr a'i gicio a'i ddyrnu dro ar ôl tro. Gadawodd y grŵp y trên yng ngorsaf reilffordd Kilwinning. Daeth sawl person ar fwrdd y trên i gymorth y dioddefwr.
Am tua 11.20pm yr un noson, adroddwyd bod grŵp o bedair merch wedi ymosod ar ddynes arall yng ngorsaf reilffordd Ayr, gan arwain at fynd â hi i’r ysbyty am ei hanafiadau.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Martin Graham: “Rydym yn apelio ar frys am dystion yn dilyn y ddau ddigwyddiad ofnadwy hyn. Diolch byth, mae'r digwyddiadau hyn yn brin, ac ni fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef ar y rheilffordd.
“Ar hyn o bryd rydym yn dilyn trywydd ymholi cadarnhaol ar gyfer y ddau ymosodiad hyn, ond rydym yn annog unrhyw un a welodd naill ai digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth i ddod ymlaen.”
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100033615.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.