Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:07 29/10/2021
Dedfrydwyd dyn i Orchymyn Gwneud Iawn â'r Gymuned18 mis ar ôl iddo ddinoethi ei hun i fenyw ar drên, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Derek Sweeney, 41, o Radnor Street, Clydebank, yn euog o anwedduster cyhoeddus yn Llys Siryf Dumbarton ar ddydd Gwener 22 Hydref.
Cafodd Orchymyn Gwneud Iawn â'r Gymuned 18 mis gyda 140 awr o waith di-dâl i'w gwblhau o fewn 12 mis.
Ar 23 Mawrth eleni, roedd Sweeney yn teithio ar drên rhwng Hyndland a Dalmuir pan wnaeth ddinoethi ei hun i fenyw 22 oed.
Cafodd y digwyddiad ei riportio i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac fe gafodd ei arestio gan swyddogion.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl BTP Steph Crawford: "Ni fydd troseddau rhywiol yn cael eu goddef o gwbl ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae gan bawb yr hawl i deithio a theimlo'n ddiogel.
"Byddwn bob amser yn cymryd adroddiadau o droseddau rhywiol o ddifrif, ac yn yr achos hwn roeddem yn gallu arestio'r sawl dan amheuaeth yn gyflym yn y fan a'r lle a dod ag ef gerbron y llysoedd.
"Os ydych chi byth yn dioddef trosedd rywiol neu aflonyddu rhywiol ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gallwch ein tecstio'n ddisylw ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser."