Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl dinoethu ei hun o flaen dwy ferch ysgol yng ngorsaf Glasgow Central, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafwyd Hugh McInnes, 49, o ddim cyfeiriad sefydlog, yn euog o anwedduster cyhoeddus a thoriad wedi'i waethygu'n rhywiol ar y heddwch yn Llys Sirol Glasgow ar y 26fed o fis Gorffennaf 2021.
Cafodd ei ddedfrydu i 16 wythnos o garchar am y troseddau.
Ar 27fed Mai 2021 Roedd McInnes yn eistedd wrth y fynedfa stryd Argyle i Orsaf Glasgow Canolog, pan ddinoethodd ei hun ym mhresenoldeb dwy ferch 14 a 15 oed.
Riportiwyd y digwyddiad i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac fe'i arestiwyd gan swyddogion a fynychodd y lleoliad yn gyflym.
Dywedodd y Rhingyll BTP Gary Ketterer: "Ni fydd troseddau rhywiol yn cael ei oddef o gwbl ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae gan bawb yr hawl i deithio a theimlo'n ddiogel.
"Byddwn bob amser yn cymryd adroddiadau am droseddau rhywiol o ddifrif, ac yn yr achos hwn roeddem yn gallu arestio'r sawl dan amheuaeth yn gyflym yn y fan a'r lle a dod ag ef gerbron y llysoedd.
"Os ydych chi byth yn dioddef trosedd rywiol neu aflonyddu rhywiol ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gallwch ein tecstio'n dawel ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser."